Salm 74 SC

SALM LXXIV

Vt quid Deus.

Achwyn am fod yn distrywio’r Eglwys, a’r grefydd, a’r allorau: gofyn cymorth gan Dduw drwy ffydd o’i gyfamod.

1 Paham (o Dduw) oddiwrthym niy cili yn dragywydd?Paham y digi mor danbaidwrth ddefaid dy borfeydd?

2 Cofia y bobl a brynaist gynt,rhoist iddynt etifeddiaeth,Mynydd Seion, dy breswylfa,i’r rhai’n yn drigfa helaeth.

3 Ymddercha (Arglwydd) taro’n drwm,pob gelyn gorthrwm difaYn dragywydd, a wnaeth na thrais,na dyfais i’th gysegrfa.

4 Dy elynion daethant i’n mysg,rhuasant derfysg greulon:A gosodasant dan gryfhau,fanerau yn arwyddion.

5 Iw cherfio’r saeri gorau gynt,a roesan wynt iw bwiyll.

6 Drylliant i’r llawr gerfiadau honag eirf, gyfeillion erchyll.

7 Llosgasant oll dy eglwys lân,a’i phyrth a thân yn ulw:A halogasant mewn dull dig,y noddfa’y trig dy enw.

8 Awn, gwnawn gyd-artaith meddant hwy,a dinystr drwy yr hollwlad:Llosgasant holl demlau y tir,gwnaethant yn wir eu bwriad.

9 Nid oes un arwydd in’ iw gael,na phrophwyd diwael destyn,Na gwybedydd, a wyr pa hyd,y pery’r byd i’n herbyn.

10 Dywaid di pa hyn (o Dduw Ion)y gwna d’elynion warthrudd?A rydd dy gâs ei gabledd friarnat ti yn dragywydd?

11 Paham y tynni’n ol dy law,(sef dy ddeheulaw berffaith,Hon sydd i’th fonwes) allan tynn,a difa d’elyn diffaith.

12 Cans o’r dechreuad Duw ei hunydyw fy nghun a’m brenin,Fe a wnâ iechwydwriaeth hir,i bawb trwy’r tir a’i dilin.

13 Parthu a wnaethost di â’th nerthy mor, a’i anferth donnau,Gwahenaist, torraist, uwch y don,bennau y blinion ddreigiau.

14 Drylliaist di ben, (nid gorchwyl gwan)y Lefiathan anferth,I’th bobl yn fwyd dodaist efo,wrth dreiglo yn y diserth.

15 Holltaist y graig, tarddodd ffynnon,ac aeth yn afon ffrwd-chwyrn:A diysbyddaist yn dra sychafonydd dyfr-grych cedyrn.

16 Di biau’r dydd, di biau’r nos,golau a haul-dlos geinwedd:

17 Seiliaist y ddaiar, lluniaist hâf:a gauaf o’th ogonedd.

18 Fy Arglwydd bellach cofia hyn,i’r gelyn gynt dy gablu,Ac i’r ynfydion roi drwg fri,a’th enw di dirmygu.

19 Oes dy durtur na ddod a’r gawdddan nawdd anifail creulon,Na âd o’th gof (o Arglwydd da)dy dyrfa, y rhai tlodion.

20 Duw, edrych ar dy gyfammod,a gwyl waelod y gwledydd:Mae ym-mhob man drigfa dyn traws,mae honynt liaws efrydd.

21 Na ddychweled y truan tlawdmewn difrawd ac mewn gwradwydd,Y dyn anghenus, llesg, a gwan,a ddatcan dy enw: Arglwydd.

22 Cyfod, dadlau dy ddadl (o Dduw)dy enw yw yn dragywydd:Coffa gabledd, yr hon drwy’r byda gayt gan ynfyd beunydd.

23 Duw: nac anghofia lais a sond’elynion y cenhedloedd,Eu swn, a’i rhodres, a’i dadwrdda ddring i gwrdd â’r nefoedd.