Salm 107 SC

SALM CVII

Confitemini Domino.

Dafydd yn cynghori y rhai a gasglodd, ac a waredodd Duw i ddiolch iddo. Yr hwn (gan roi daioni i’r cyfion) sydd yn cau safn yr enwir.

1 Molwch yr Arglwydd, cans da yw,moliennwch Dduw ein llywydd,Oblegid ei drugaredd frya bery yn dragywydd.

2 Y gwaredigion canent fawl,i Dduw gerdd nodawl gyson:Y sawl a’ achubwyd, caned hyn,o law y gelyn creulon.

3 A gasglodd o bedwar-ban byd,dowch chwi i gyd-ganeuau.O dir y dwyrain dowch mewn hedd,gorllewin, gogledd, deau.

4 Drwy yr anialwch, wyrdraws hynt,y buasent gynt yn crwydroAllan o’r ffordd: heb dref na llan,lle caent hwy fan i drigo.

5 Drwy newyn, syched bu’r daith hon,a’i calon ar lewygu:

6 Ar Dduw y galwent y pryd hyn,pan oeddyn ymron trengu.Yna eu gwared hwynt a wnaeth,o’i holl orthrym-gaeth foddion.

7 Rhyd yr iawn ffordd fe’i dug mewn hedd,i dref gyfannedd dirion.

8 Addefant hwythau gar ei fron,ei swynion drugareddau:Ac er plant dynion fel y gwnaethyn helaeth ryfeddodau:

9 Ddiwallu honaw einioes dyn,rhag newyn a rhag syched:Ac o’i fawr râs eu cadw i gyd,pan oedd y byd yn galed.

10 Y rhai mewn tywyllwch a drig,ynghysgod llewig angau,Yn rhwym mewn nychdod, ac mewn bâr,a heyrn ar eu sodlau.

11 A hyn o herwydd iddynt fod,mewn anufydd-dod eithaf:A llwyr ddirmygu gair Duw Ior,a chyngor y Goruchaf.

12 A thrymder calon cwympiwyd hwy,nid oedd neb mwy a’i cododd.

13 Ar Dduw mewn ing y rhoesant lef,ac yntef a’i gwaredodd.

14 Ef a’i gwaredodd hwynt o’i drwg,sef o dywyllwg caeth-glud,O gysgod angau eu rhyddhau,a thorri eu rhwymau hefud.

15 Addefent hwythau gar ei fron,ei fwynion drugareddau,Ac i blant dynion fel y gwnaethyn helaeth ryfeddodau.

16 Cans y pyrth pres torrodd yn chwyrna’r barriau heyrn hefyd:

17 Am eu bai a’i camwedd yn wir,y poenir y rhai ynfyd.

18 A hwynt yn laru ar bob bwyd,fe’i dygwyd at byrth angau.

19 Ar Dduw mewn ing y rhoesant lef,achubodd ef hwynt hwythau,

20 Gan yrru ei air iw iachau,ac iw rhyddhau yn fuan:A hwynt â’i air tynnu a wnaetho’i methedigaeth allan.

21 Addefant hwythau gar ei fron,ei fwynion drugareddau:Ac i blant dynion fel y gwnaethyn helaeth ryfeddodau.

22 Aberthant hefyd aberth mawl,iw ogoneddawl fawredd:A mynegant ei waith a’i wyrth,yn ei byrth mewn gorfoledd.

23 Y rhai ânt mewn llongau i’r don,a’i taith uwch mawrion ddyfroedd,

24 A welsant ryfeddodau’r Ion,a hyn mewn eigion moroedd.

25 A’i air cyffroe dymestloedd gwynt,y rhai’n a godynt donnau

26 Hyd awyr fry, hyd eigion llawr,ac ofn bob awr rhag angau.

27 Gan ysgwyd a phendroi, fal hyn,dull meddwyn, synnai arnynt.

28 Ar Dduw mewn ing y rhoesant lef,daeth ef a chymorth iddynt.

29 Gwnaeth e’r ystorm yn dawel deg,a’r tonnau’n osteg gwastad.

30 Yn llawen ddistaw doen i’r lan,i’r man y bai’i dymuniad.

31 Cyffesent hwythau gar ei fron,ei fwynion drugareddau,Ac i blant dynion fel y gwnaethyn helaeth ryfeddodau.

32 Holl gynulleidfa ei bobl ef,clod Duw hyd nef dyrchafant:Holl eisteddfeydd pennaethiaid hen,yn llawen a’i moliannant.

33 Y ffrydau’n ddyrys dir a wnâi,fe sychai ddwfr lle tarddo.

34 A thir ffrwythlawn a wnâi’n ddiffrwyth,lle trig drwg dylwyth yntho.

35 Troes yr anialwch yn llyn glâs,a’r tir cras yn ffynhonnydd.

36 Lle y gwnâi ef drigfan i’r gwael ddyn,i dorri ei newyn beunydd.

37 Lle yr hauasant faesydd glân,a llawer gwinllan dyner,Y rhai a roddant lawnder ffrwyth,a chnydlwyth yn ei amser.

38 Cans cynyddasant hwy gan wlithgrasol fendith un Duw cun:A’i hanifeiliaid hysb a blith,rhoes yr un fendith arnun.

39 Daeth caethder gwedi hyn i gyd,a drygfyd er eu gostwng.Gadawodd eu gorthrymmu a’i plau,cawsant flinderau teilwng.

40 Eu dirmyg ar y beilchion troes,ac ef a’i rhoes i grwydroMewn drysni heb lun ffordd i’w chael,lle buant wael eu gortho.

41 Yna rhoes y tlawd i well fri,dug o’r trueni allan,Gan lwyddo ei deulu, a’i holl blaid,fel defaid wrth y gorlan.

42 Y rhai cyfiawn a welant hyn,a chanthyn bydd yn hyfryd:A’r enwir ceuir ei ddwy enar ei gynfigen fowlyd.

43 Pa rai sy ddoeth i ddeall hyn,fe roddir iddyn wybodFaint yw daioni f’Arglwydd yn’,wrth hyn y cân gydnabod.