Salm 119 SC

ALEPH. Rhan 1

SALM CXIX

Beati immacul ati.

Yn y psal, y mae y prophwyd yn canmol ac yn mawrhygu cyfraith Dduw, gan ddysgu i’r ffyddloniaid ymfodloni ynddi, ar air, a myfyrdod ac yn yr Hebraeg y mae pob 8 wers o’r Psalm hon yn dechrau ar vn llythyren, gan ddechrau yn y llythyren. A, ac felly drwy b

1 Pob cyfryw ddyn y sydd a’i daithyn berffaith, mae fe’n ddedwydd,Y rhai’n fucheddol a rodianYnghyfraith lân yr Arglwydd.

2 Y rhai i gyd gwynfyd a gânt,a gadwant ei orchmynion:Ac a’i ceisiant hwy yn ddilys, holl ewyllys calon.

3 Diau yw nad â y rhai hyn,i galyn llwybrau gwammal,

4 Ond cadw dy air (a erchaist ynn)a dilyn hyn yn ddyfal.

5 Och fi na chawn unioni’n glau,fy llwybrau at dy ddeddfod:

6 Byth ni’m gwradwyddid y modd hwn,tra cadwn dy gyfammod.

7 Mi a’th glodforaf di er neb,ac mewn uniondeb calon:Pan ddysgwyf adnabod dy farn,sy gadarn, ac sy gyfion.

8 Am dy farn mae fy holl amcan,dy ddeddfau glân a gadwaf.Na âd fyth fyth fi yn fy nych,o, tro i edrych arnaf.

BETH. Rhan 2.

In quo corriget.

9 Pa fodd (o Dduw) y ceidw llangc,sydd ieuangc, eu holl lwybrau?Wrth ymgadw yn ol dy air,pob llwybr a gair yn olau.

10 Dy orchmynion â’m holl galon,a’i dirgelwch ceisiais oll,O lluddias fi ar ofer hynt,oddiwrthynt ar gyfyrgoll.

11 I’m calon cuddiais dy air cu,rhag imi bechu’n d’erbyn:

12 O Arglwydd bendigaid wyt ti,o dysg i mi d’orchymmyn.

13 Dy gyfiawn feirn, a’r gwir air tau,a mawl gwefusau traethais.

14 A’th dystiolaethau di i gyd,uwch holl dda’r byd a hoffais.

15 Dy ddeddf fy myfyr yw a’m drych,dy ffyrdd ’r wy’n edrych arnyn.

16 Mor ddirgrif ymy yw dy air,o’m cof nis cair un gronyn.

GIMEL. Rhan 3.

Rertibue seruo tuo.

17 Bydd dda i’th wâs, a byw a wna,a’th air a gadwa’n berffaith:

18 A’m llygaid egor di ar lled,i weled rhin dy gyfraith.

19 Dieithr ydwyfi’n y tir,dy ddeddf wir na chudd rhagor.

20 O wir awydd i’r gyfraith hon,mae’n don fy enaid ynof.

21 Curaist feilch: daw dy felltith dii’r rhai sy’n torri d’eirchion.

22 Tro oddiwrthif fefl ar gais,cans cadwais dy orchmynion:

23 Er i swyddogion roi barn gas,rhoes dy wâs ei fyfyrdod

24 Yn dy ddeddf, hon sydd ym i gydyn gyngor hyfryd ynod.

DALETH. Rhan 4.

Adhaesit pauimento.

25 F’enaid ymron llwch y bedd yw:o’th air gwna fi’n fyw eilwaith:

26 Mynegais fy ffyrdd clywaist fi,o dysg i mi dy gyfraith.

27 Pâr i mi ddeall ffordd dy air,ar hwnnw cair fy myfyr.

28 Gan ofid f’enaid fu ar dawdd,a’th air gwnai ’n hawdd fi’n bybyr,

29 O’th nawdd oddiwrthif tyn ffyrdd gau,a dysg y’m ddeddfau crefydd.

30 Dewisais ffordd gwirionedd, honsydd ger fy mron i beunydd.

31 Glynais wrth dy air, o Arglwydd,o lludd i’m wradwydd digllon.

32 Yn dy ddeddfau fy rhediad fyddpan wneych yn rhydd fy nghalon.

HE. Rhan 5.

Legem pone.

33 Duw, ffordd dy ddeddfau dysg i mi,dros f’einioes hi a gadwaf.

34 O par i’m ddeall y ddeddf hon,o’m calon mi a’i cyflownaf.

35 Par i’m fynd lwybr dy ddeddf ar frys,hyn yw fy ’wyllys deilwng;

36 A’m calon at ddystiolaeth dda,nid at gybydd-dra gostwng.

37 Tro fi rhag gweled gwagedd gwael,bywha fi’i gael dy ffordd di.

38 Cyflowna d’air â mi dy was,yna caf ras i’th ofni.

39 Ofnais warth, o tro heibio hon,da yw d’orchymynion tyner.

40 Wele, f’awydd i’th gyfraith yw,gwna ym fyw o’th gyfiownder.

FAU. Rhan 6.

Et ueniat super me.

41 Arglwydd dod dy drugaredd ym,a hyn o rym d’addewid.

42 Drwy gredu’n d’air rhof atteb crwni’m cablwr hwn a’m dilid.

43 O’m genau na ddwg dy air gwir,i’th farnau hir yw’n gobaith.

44 Minnau’n wastadol cadwaf bythdy lân wehelyth gyfraith.

45 Mewn rhyddid mawr rhodio a wnaf,a cheisiaf dy orchmynion.

46 A’th dystiolaethau rhof ar goedd,o flaen brenhinoedd cryfion.

47 Heb wradwydd llawen iawn i’m cairyn d’air, yr hwn a hoffais.

48 Codaf fy nwylo at dy ddeddfdrwy fyfyr, greddf a gredais.

ZAIN. Rhan 7.

Memor esto.

49 Cofia i’th was dy air a’th raith,lle y rhois fy ngobaith arno.

50 Yn d’air mae ’nghysur, Ior, i gyd,yr hwn mae’ mywyd yntho.

51 Er gwatwar beilch ni throis ychwaithoddiwrth dy gyfraith hoyw-bur.

52 Cofiais (o Dduw) dy ddeddf erioed,yn honno rhoed i’m gysur.

53 Y trowsion a ofnais yn faith,sy’n torri’r gyfraith eiddod’.

54 O’th ddeddf y cenais gerdd yn hy,yn nhy fy mhererindod.

55 Cofiais d’enw (fy Ion) bob nos,o serch i’th ddiddos gyfraith.

56 Cefais hynny am gadw o’m brondy ddeddf: sef hon sydd berffaith.

CHETH. Rhan 8.

Portio mea Domino.

57 Ti Arglwydd wyt i mi yn rhan,ar d’air mae f’amcan innau,

58 Gweddiais am nawdd gar dy frono’m calon yn ôl d’eiriau.

59 Meddyliais am ffyrdd dy ddeddfau,a throis fy nghamrau attat.

60 Dy eirchion ar frys a gedwais,nid oedais ddim o honynt.

61 Er i draws dorf fy’ speilio i,dy gyfraith ni anghofiais.

62 Gan godi ganol nos yn frau,dy farnau a gyffesais.

63 Cyfaill wyf i’r rhai a’th ofnant,ac a gadwant dy eiriau.

64 Dy nawdd drwy’r tir sy lawn i’n mysg,Duw dysg i mi dy ddeddfau.

TETH. Rhan 9.

Bonitatom fecisti.

65 Arglwydd gwnaethost yn dda a’th was,yn ol dy râs yn addo.

66 Dysg i’m ddwall dy air yn iawn,’rwy’n credu’n gyflawn yntho.

67 Cyn fy ngostwug euthym ar gam,yn awr wyf ddinam eilwaith.

68 Da iawn a graslawn ydwyt ti,o dysg i mi dy gyfraith.

69 Dy air er beilch yn clyttio ffug,â’m calon orug cadwaf.

70 Breision ynt hwy, er hyn myfi,dy gyfraith di a hoffaf.

71 Fy mlinder maith da iawn i’m fu,i ddysgu dy ffatusoedd.

72 Gwell fu i’m gyfraith d’enau glânnag aur ac arian filoedd.

JOD. Rhan 10.

Manus tua fecerunt me.

73 A’th ddwylaw gwnaethost fi dy hun,a rhoist i’m lun yn berffaith:O par i’m ddeall dy air di:A dyscaf fi dy gyfraith.

74 Y sawl a’th ofnant gwelant hyn,bydd llawen genthyn weled:Am fod fy ngobaith yn dy air,Yr hwn a gair ei glywed.

75 Duw gwn fod dy farnau’n deilwng,a’m gostwng i yn ffyddlon:

76 Dod nawdd er cyssur i’m dy was,o’th ras a’th addewidion.

77 Dod i’m dy nawdd, a byddaf byw,dy gyfraith yw yn felys.

78 Gwradwydder beilch a’m plyg ar gam,myfyriaf am d’ewyllys.

79 Y rhai o Dduw a’th ofnant di,troer y rhei’ni attaf:A’r rhai adwaenant er eu maeth,dystiolaeth y Goruchaf.

80 Bydded fy nghalon yn berffaith,yn dy lân gyfraith Arglwydd,Fel nas gorchuddier yn y byd,fy wyneb-pryd a gwradwydd.

CAPH. Rhan 11.

Defecit anima mea.

81 Gan ddisgwyl am dy iechyd di,mae f’enaid i mewn diffigYn gwilied beunydd wrth dy air,o Arglwydd cair ff’n ddiddig.

82 Y mae fy llygaid mewn pall ddrychyn edrych am d’addewyd,Pa bryd (o Arglwydd, dwedais i)i’m ddiddeni â’th iechyd?

83 Cans wyf fel costrel mewn mwg cau:cofiais dy eiriau cyfion.

84 Pa hyd yw amser dy wâs di?Pa bryd y bernir trowsion?

85 Cleddiai’r beilchion i’m byllau: hynsy’n erbyn dy gyfreithiau.

86 Gwirionedd yw d’orchmynion di,cymmorth fi rhag cam faglau.

87 Braidd na’m difent o’r tir ar gais:Ond glynais wrth d’orchmynion.

88 Bywha fi Dduw, i gadw ’yn glau,dystiolaeth d’enau ffyddlon.

LAMED. Rhan 12.

In aternum Domine.

89 Byth yn y nef y pery d’air,o Dduw cair dy wirionedd.O oes i oes: sicrhe’ist y tirna siglir mo’i amgylchedd.

90 Safant byth wrth dy farnau di,maent i ti’n weision ufudd.

91 Oni bai fod dy ddeddf yn dda,i’n difa buasai gystudd.

92 A’th orchmynion y bywheist fi,am hyn y rhei’ni a gofiais.

93 Eiddoti wyf, Dduw achub fi,dy ddeddfau di a geisiais.

94 Disgwyl fy lladd mae’r anwir sur;

95 ’rwy’n ystyr dy dystiolaeth.

96 Ar bob perffeithrwydd mae terfyn,ond ar d’orchymyn helaeth.

MEM. Rhan 13.

Quomodo dilexi.

97 Mor gu (o Arglwydd) gennyf fi,dy ddeddf di a’th gyfammod:Ac ar y rhai’n o ddydd i ddydd,y bydd fy holl fyfyrdod.

98 Gwnaethost ti â’th orchmynion iach,yn ddoethach nâ’m gelynion:Cans gyd â mi yn dragywydd,y bydd dy holl orchmynion.

99 Gwnaethost fi’n ddoethach (o Dduw Ion)nâ’r athrawon a’m dyscynt:Oblegid fy myfyrdod mau,dy dystiolaethau oeddynt.

100 Am gadw o honof dy ddeddf di,mwy nâ’m rhieni delldais:

101 Rhag drwg-lwybr, fel y cadwn d’air,fy nrhaed yn ddiwair cedwais.

102 Rhag dy farnau ni chiliais i,cans ti a’m dysgaist ynthynt.

103 Mor beraidd gennif d’eiriau iach,nâ’r mel melusach ydynt.

104 O Arglwydd â’th orchmynion di,y gwnaethost fi yn bwyllawg:Am hynny’r ydwyf yn casaupob cyfryw lwybrau geuawg.

NUN. Rhan 14.

Luccrua pedibus meis.

105 Dy air i’m traed i llusern yw,a llewych gwiw i’m llwybrau.

106 Tyngais, a chyflowni a wnaf,y cadwaf dy lân ddeddfau.

107 Cystuddiwydd fi’n fawr: Arglwydd da:bywha fi’n ôl d’addewyd:

108 Bodloner di, o Arglwydd mau,ag offrwm genau diwyd:A dysg i’m dy holl farnau draw,

109 f’enaid sy’im llaw’n wastadol:Am hynny nid anghofiais chwaith,dy lân gyfraith sancteiddiol.

110 Yr annuwiolion i’r ffordd fau, rhoddasant faglau geirwon:Ni chyfeiliornais i er hyn,ond dylyn dy orchmynion.

111 Cymerais yn etifeddiaeth lân,byth weithiau dy orchmynion,O herwydd mai hwyntwy y sydd,lawenydd mawr i’m calon.

112 Gostyngais i fy nghalon bur,i wneuthur drwy orfoledd,Dy ddeddfau di tra fwy’n y byd,a hynny hyd y diwedd.

SAMECH. Rhan 15.

Iniquos odio habui.

113 Dychmygion ofer caseis i,a’th gyfraith di a hoffais.

114 Lloches a tharian i’m i’th gair:wrth dy air y disgwyliais.

115 Ciliwch rai drwg oddiwrthiff,fy Nuw cadwaf ei gyfraith,

116 Cynnal fi â’th air, a byw a wnaf,ni wridaf am fy ngobaith.

117 O cynnal fi, fy Arglwydd Naf,a byddaf iach dragwyddol:Ac yn dy ddeddfau iach y byddfy llawenydd gwastadol.

118 Sethraist o Arglwydd, yr holl rai,a ai oddiwrth dy ddeddfau:Am mai oferedd gar dy fronoedd eu dychmygion hwythau.

119 Difethaist holl rai drwg y tir,fel y dyfethir sothach.Am hyn dy dystiolaethau di,a gerais i’n anwylach.

120 O Arglwydd Dduw rhag ofn dy ddig,fy gnhawd am cig a synnodd.Rhag dy farnedigaethau di,fy yspryd i a ofnodd.

AIN. Rhan 16.

Indicium feci.

121 Barn a thrugaredd a wneuthym,na ddod fi ym caseion:

122 O Arglwydd, dysg ddaioni i’th was,achub rhag cas y beilchion.

123 Pallai’n golwg yn disgwyl llawniechyd o’th gyfiawn eiriau.

124 Yn ol trugaredd â’th was gwna,dysg imi’n dda dy ddeddfau.

125 Dy was wyf fi, deall i’m dod,i wybod dy amodau.

126 Madws it (Arglwydd) roddi barn,torrwyd dy gadarn ddeddfau.

127 Mwy nag aur hoffais dy ddeddf di,pe rhon a’i goethi yn berffaith.

128 Yn uniawn oll y cyfrifais,caseais lwybrau diffaith.

PE. Rhan 17.

Mirabilia.

129 Rhyfedd yw dy dystiolaethau,fy enaid innau a’i cadwodd.

130 Egoriad d’air yn olau y caid,i weiniaid pwll a ddysgodd.

131 Dyheais gan chwant (o Dduw Ion)i’th lân orchmynion croyw.

132 Edrych di arnaf, megis ary rhai a gâr dy enw.

133 Yn ol d’air cyfarwydda ’nrhoed,anwiredd na ddoed arnaf.

134 O gwared fi rhag trowsedd dyn,a’th orchymmyn a gadwaf:

135 Llewycha d’wyneb ar dy was:dysg imi flas dy ddeddfau.

136 Dagrau om’ golwg llifo’ a wnânt,nes cadwant dy gyfreithiau.

TSADI. Rhan 18.

Iustus es Iehoua.

137 Cyfiawn ydwyt (o Arglwydd Dduw)ac uniawn yw dy farnau.

138 Dy dystiolaethau yr un wedd,ynt mewn gwirionedd hwythau.

139 Fy serch i’th air a’m difaodd,pan anghofiodd y gelyn.

140 D’ymadrodd purwyd drwy fawr ras,hoffodd dy wâs d’orchymyn.

141 Nid anghofiais dy gyfrath lân,er bod yn fychan f’agwedd.

142 Dy gyfiawnder di cyfiawn fydd:a’th ddeddf di fydd wirionedd.

143 Adfyd cefais, a chystudd maith:dy gyfraith yw ’nigrifwch.

144 Gwna i’m ddeall cyfiownder gwiw:a byddaf fyw mewn heddwch.

COPH. Rhan 19.

Toro corde.

145 Llefais a’m holl galon, o clyw,a’th ddeddfau Duw a gadwaf,

146 Arna ti llefais, achub fi,a’th lwybrau di a rodiaf.

147 Gwaeddais, achubais flaen y dydd,wrth d’air yn ufydd gwiliais.

148 Deffroe fy llygaid ganol nos,o achos d’air a hoffais.

149 Clyw fi’n ol dy drugaredd dda,bywha fi’ yn ol dy farnau.

150 Arnaf rhai sceler a nessânt:troseddant dy gyfreithiau.

151 Tithau bydd agos: Arglwydd Dduw:gwirionedd yw d’orchmynion.

152 Gwyddwn fod dy dystiolaethau,gwedi eu sicrhau yn gryfion.

RESH. Rhan 20.

Uide humilitatem.

153 Gwel fy nghystudd, gwared ar gais,cans cofiais dy gyfreithiau.

154 Dadleu fy nadl, rhyddha fi’n rhodd,yn ol ymadrodd d’enau.

155 Ffordd iechydwriaeth sydd bell iawn,oddiwrth anghyfiawn ddynion:Am nad ydynt yn ceisio’n glau,mo llwybr dy ddeddfau union.

156 Dy drugaredd Arglwydd aml yw,gwna i’m fyw’n ol dy farnau.

157 Llawer sy’m herlid, r’wyf er hyn,yn dylyn dy lân ddeddfau.

158 Gwelais y traws, a gresyn fu,iddynt ddirmygu d’eiriau.

159 Hoffais dy ddeddf, bywha fi’ Arglwydd,herwydd dy drugareddau.

160 Dechrau dy air gwirionedd yw,o Arglwydd Dduw y llywydd:A'th gyfiawn farnedigaethau,sydd yn parhau’n dragywydd.

SCHIN. Rhan 21.

Principes persecuti sunt.

161 Y cryf a’r gam f’erlid a wnai,rhag d’ofn y crynai’ nghalon.

162 Oblegid d’air wyf lawen iawn,fel pe cawn dlysau mowrion.

163 Celwydd ffieidd-dra a gasais,a hoffais dy gyfreithiau:

164 Saith waith bob dydd y rhof yt glod,am fod yn dda dy farnau.

165 Y sawl a gâr dy air, cânt hedd,drwg nis goddiwedd mhonyn.

166 Gwiliais Arglwydd wrth dy iechyd,gan wneuthyd dy orchymmyn.

167 Dy ddeddf cadwodd fy enaid i,a hi yn fawr a hoffais.

168 Am fod fy llwybrau gar dy fron,d’orchmynion nid anghofiais.

TAU. Rhan 22.

Appropinquat deprecatio.

169 O’th flaen Arglwydd nessaed fy nghri,dysg imi ddeall d’eiriau.

170 Gwared fi’n ol d’ymadrodd rhâd,del attad fy ngweddiau.

171 Dy fawl a draetha’ ngenau’n wychpan ddysgych ym’ dy ddeddfau.

172 Datgan fy nhafod d’air yn rhwydd,herwydd dy gyfiawn eiriau.

173 Cymhorthed dy law fi ar gais,Dewisais dy orchmynion.

174 Cerais dy iechyd, a’th ddeddf syddlawenydd mawr i’m calon.

175 Bo f’enaid byw, a mawl it rhoed:dy farn boed i’m amddiffyn.

176 Crwydrais fel oen, dy was o cais,cans cofiais dy orchymmyn.