1 O cenwch fawl i Dduw ein nerth,cerdd brydferth cenwch iddo:A llafar lais, a genau ffraeth,gerddwriaeth i Dduw Jago.
2 Cymerwch gathl y psallwyr lân,a moeswch dympan hefyd:A cheisiwch ganu gydâ hyny nabl a’r delyn hyfryd.
3 Cenwch udcyrn ar loer newydd,y pryd sydd nodol iddo:
4 Sef deddf yw hon ar wyl uchel,Duw Israel ac Jago.
5 Yn Joseph clymmodd hyn yn ddysg,pan ddaeth o fysg yr Aiphtwyr:Lle clywais iaith oedd ddieithr im’,heb ddeall dim o’i hystyr.
6 Dwedodd fy Nuw: drwy nerth fy mraichtynnais faich eich ysgwyddau:Ac felly tynnais eich dwy law,i’madaw a’r ffwrneisiau.
7 I’th flinder gelwaist arnaf fi,gwaredais di sut yma:Wrth lais taran fy mrhofiad oedd,ynglan dyfroedd Meribba.
8 Fy mhobl Israel gwrando fi,os ystyri yn ffyddlon:
9 Na fid ynot arall yn Dduw:na chrymma’i gaudduw estron.
10 Myfi yr Arglwydd Dduw a’th ddugo’r Aiphtir caddug allan:Llanwaf dy fol heb ddiffyg dafn,lleda dy safn yn llydan.
11 Ni choeliai Israel fy rhybudd,ni fyddent ufudd ymy:
12 Gollyngais hwynt iw ffyrdd eu hyn,iw cyngor cyndyn hynny.
13 Och na wrandawsai Israel,gan rodio’n ffel fy llwybrau:
14 A phwys fy llaw llethaswn froneu holl elynion hwythau.
15 Caseion ein Duw, yn ei lid,a ostyngesid iddaw.Ac ef a roesai yn y tirammodau hir i’r eiddaw.
16 Ein Duw a roesai iddynt borth,drwy frasder cymorth rhadol:Rhoi mel o’r graig, rhoi llaeth yn flith,a gwenith yn ddigonol.