1 Diolchaf fi â chalon rwydd,i’r Arglwydd bob amserau:Ei foliant ef, a’i wir fawrhâd,sy’n wastad yn fy ngenau.
2 Fy enaid sydd yn bostio’n rhwydd,o’m Harglwydd, ac o’m perchen:A phob difalch hynny a glyw,ac a fydd byw yn llawen.
3 Molwch fy Arglwydd gyd â mi,cydfolwn ni ei enw ef:
4 Criais arno yn fy ofn caeth,a gwrando wnaeth fy ynglef,
5 Y sawl a edrych arno ef,â llewych nef eglurir:Ni wradwyddir o honynt neb,a’i hwyneb ni chwilyddir.
6 Wele, y truan a roes lef,a Duw o’r nef yn gwrandoA’i gwaredodd ef o’i holl ddrwg,a’i waedd oedd amlwg iddo.
7 Angel ein Duw a dry yn gylch,o amgylch pawb a’i hofnant:Ceidw ef hwynt: a llawer gwellna chastell yw eu gwarant.
8 O profwch, gwelwch, ddaed yw,yr Arglwydd byw i’r eiddo:A gwyn ei fyd pob dyn a gred,roi ei ymddiried yntho.
9 Ofnwch Dduw ei holl sainct (heb gel)a’i gwnel ni bydd pall arnyn:
10 Nag eisiau dim sydd dda: er bod,ar gnawon llewod newyn.
11 Chwychwi feibion deuwch yn nes,gwrandewch hanes ystyriol.Dowch a dysgaf i chwi yn rhwydd,ofni yr Arglwydd nefol.
12 Y sawl a chwennych fywyd hir,a gweled gwir ddaioni:Cae dy enau rhag drwg di bwyll,a’th safn rhag twyll a gwegi.
13 Gwrthod ddrwg, gwna dda: a chais hedd,hon hyd y diwedd dylyn:A chadw’r heddwch wedi ei chael,fal dyna ddiwael destyn.
14 Y mae yr Arglwydd a’i olwgar y dyn diddrwg cyfion:A'i glustiau ef o’i lawn wir fodd,egorodd i’r rhai gwirion.
15 Wyneb yr Ion a’i guwch sy dynn,yn erbyn gweithwyr diffaith:Y coffa o honynt ef a’i tyrr,ar fyrr o’r ddaiar ymaith,
16 Hawdd y clybu fy Naf o’r nef,leferydd llef y cyfion:A thra buan (o’i râd a’i rodd)y tynnodd o’i trallodion.
17 Agos iawn yw ein Duw at gury galon bur ddrylliedig:A da y ceidw ef bob prydyr yspryd cystuddiedig.
18 Trwch, ie ac aflwyddiannus iawn,a fydd gwr cyfiawn weithian:Ei ddrygau oll, Duw oddi fry a i tyn,a’i try i’r gorau.
19 Ceidw ei esgyrn ef ei hun,o honynt un ni ddryllir:A drwg a laddo y drwg was,â ffrwyth ei gas y lleddir.
20 Eithr holl wasnaethwyr Duw ei hun,yr Arglwydd gun a’i gwared:I’r sawl a’mddiried yntho ef,ni all llaw gref mo’r niwed.