1 Pan ddychwelodd ein gwir Dduw Iongaethiwed Seion sanctaidd:Mor hyfryd gennym hyn bob un,a rhai mewn hun nefolaidd.
2 Nyni â’n genau yn dda’n gwedd,gorfoledd ar ein tafod:
3 Ymhlith cenhedloedd dwedynt hyn,fe wnaeth Duw drostyn ysod.
4 Ystod fawr a wnaeth Duw yn wir,ein dwyn i’n tir cynnefinO gaethiwed y gelyn llym,am hyn yr ym yn chwerthin.
5 O cynnull ein gweddillion ni,tro adre’ rhei’ni eilwaith,Gan dy lif-ddyfroedd fel y gwlychy dehau sych a diffaith.
6 Y rhai sy’n hau mewn dagrau blin,hwyntwy dan chwerthin medant:Felly f’Arglwydd dan droi y byd,dwg ni i gyd i’r meddiant.
7 Y rhai dan wylo aeth o’r wlad,fel taflu hâd rhyd gryniau:Drwy lawenydd y dont ynghyd,fel casglu yd yn dyrrau.