Salm 71 SC

SALM LXXI

In te Domine.

Gweddi (drwy ffydd) ar i Dduw ei waredu ef rhac ei fâb Absolon greulon.

1 Mi a’mddiriedais ynod (Ner)na’m gwradwydder byth bythoedd,

2 Duw o’th gyfiownder gwared fi,a chlyw fy nghri hyd nefoedd.

3 Duw bydd yn graig o nerth i mii gyrchu atti’n wastad:A phâr fy nghadw i yn well,ti yw fy nghastell caead.

4 Duw gwared fi o law’r trahaus,a’r gwr trofaus, a’r trowsddyn.

5 Ynot ti, Dduw bu ’ngoglud maith,a’m gobaith er yn ronyn.

6 O groth fy mam y tynnaist fi,rhoist ynof egni etto,I tithau fyth, am hyn o hawl,y canaf fawl heb peidio.

7 I lawer dyn bum anferth iawn,ti yw fy nerthlawn lywydd.

8 Fy safn bydd lawn o’th fawl gan dant,ac o’th ogoniant beunydd.

9 Nac esgeulusa fi na’m braintyn amser henaint truan.Er pallu’r nerth, na wrthod fi,Duw edrych di ar f’oedran.

10 Medd fy nghaseion r’wyf yn wann,hwy a ddisgwilian f’anaf:Ymgynghorasant yn ddi synn,gan ddwedyd hyn am danaf:

11 Duw a’i gwrthododd, (meddant hwy)erlidiwch fwyfwy bellach:A deliwch ef, nid oes drwy’r bydyr un a’i gweryd baiach.

12 Er hyn o frad, (Duw) bydd di well,na ddos ymhell oddiwrthy.Fy Nuw prysura er fy mhorth,ac anfon gymmorth ymmy.

13 Angau gwarthus pob rhai a gânta wrthwynebant f’einioes,Gwradwydd a gwarth iddynt a drig,a gynnig i mi ddrygloes.

14 Fy ngobaith innau a saif bythyn ddilyth a safadwy,Ymddiried ynot (Dduw) a wnaf,ac a’th foliannaf fwyfwy.

15 Dy iechydwriaeth sy i’m genau,yr hwn ni thau funudyn:A’th gyfiawnder, ac ni wn iddim o’r rhifedi arnyn.

16 Ynghadernid yr Arglwydd Dduw,tra fwy fi byw y credaf:A’th gyfiownder di hyd y brig,yn unig hyn a gofiaf.

17 Duw, di a ddysgaist i mi hyn,do, er yn blentyn bychan:A hyd yn hyn r’wyf yn parhaui osod d’wrthiau allan.

18 O Duw na wrthod fi yn hen,a’m pen, a’m gen yn llwydo,Nes i’m ddangos i’r rhai sy’n oldy wrthiau nerthol etto.

19 Dy gyfiownder yn uchel aeth,yr hwn a wnaeth bob mowredd,Duw pwy y sydd debyg i ti?nid ydym ni ond gwagedd.

20 Duw gwnaethost di ym’ fyw yn brudd,a gweled cystudd mynych,Troist fi i fyw, dychwelaist fi,drwy’ nghodi o’r feddrod-rych.

21 Mwy fydd fy mawredd nag a fu,troi i’m diddanu innau,

22 Yna y molaf dy air am hyn,ar nabl offeryn dannau.O Sanct Israel, canaf hynar delyn, ac â’m genau:

23 Am ytty wared f’enaid i,gwnâf i ti hyfryd leisiau.

24 Canaf y’t hefyd gyfion glodâ’m tafod: wyt iw haeddu:Am yt warthau a gwarthruddiaw,fy ngwas sy’n ceisiaw ’nrygu.