Salm 41 SC

SALM XLI

Beatus qui intelligit.

Bendithio y rhai trugarog wrth eraill. Achwyn rhag anffyddlon gyfeillion. Diolchgarwch.

1 Gwyn ei fyd yr ystyriol frawd,a wnel a’r tlawd syberwyd.Yr Arglwydd ystyriol o’r nefa’i ceidw ef rhag drygfyd.

2 Duw a’i ceidw, a byw a fyddyn ddedwydd yn ddaiarol:O na ddyro efo yn rhoddwrth fodd y rhai gelynol.

3 Yn ei wely pan fo yn glafrhydd y Goruchaf iechyd:A Duw a gweiria oddi fryei wely yn ei glefyd.

4 Dywedais innau yna’n rhwydd,dod f’Arglwydd dy drugaredd,Iachâ di’r dolur sy dan fais,lle y pechais mewn anwiredd.

5 Traethu y gwaethaf a wnâi’ nghâsamdanaf, atcas accen:Pa bryd y bydd marw y gwan,a’i enw o dan yr wybren?

6 Os daw i’m hedrych, dywaid ffug,dan gasglu crug iw galon,Ac a’i traetha pan el i ffwrddi gyfwrdd a’i gyfeillion.

7 Fy holl gaseion doent ynghyd,i fradu ’i gyd yn f’erbyn,Ac i ddychmygu i mi ddrwg,a minneu’n ddiddrwg iddynt.

8 Yna dywedent hwy yn rhwydd,tywalldwyd aflwydd arno,Mae ef yn gorwedd yn ei nyth,ni chyfyd byth oddiyno.

9 F’anwyl gyfaill rhwym y’m wrth gred,fy ’mddiried a’m dewisddyn:A fu yn bwyta’ mara erioed,a godai’i draed yn f’erbyn.

10 Eithyr dy hunan cyfod fi,o’th ddaioni Duw o’r nef:Felly y gallaf fi ar hyntgael talu iddynt adref.

11 Da y gwn fy mod i wrth dy fodd,wrth hyn, na chafodd casddyn:A gwna na chaiff un gelyn glasddim urddas yn fy erbyn.

12 Felly y gwn am danaf fi,di a’m cynheli’n berffaith:Gan fy rhoi i byth gar dy frono fysg y dynion diffaith.

13 I Dduw Israel boed yn flithy fendith, (Ior goruchaf)Yn oes oesoedd: a thrwy air llen:Amen: Amen a draethaf.