1 Cadw fi Duw, cans rhois fy mhwysa’m coel yn dradwys arnad:
2 Fy Arglwydd wyd: mae dan fy mron,y gyffes hon yn wastad:Nad lles yt yw na’m da, na’m rhin:
3 ond i drin sanct daiarol,Llesu’r rhai’n fy ’wyllys yw,y rhai sy’n byw’n rhinweddol.
4 I’r rhai a redant at Dduw gau,y daw gofidiau amlder:Eu diod offrwm o waed, nioffrymaf fi un amser.
5 Ni henwaf chwaith, yr Arglwydd ywfy modd i fyw, a’m phiol:A thydi Ior sy’n rhoi ’mi ran,a chyfran yn ddigonol.
6 A thrwy Dduw syrthiodd i mi rano fewn y fan hyfrydaf:Digwyddodd ymy, er fy maeth,yr etifeddiaeth lanaf.
7 Bendithiaf finnau Dduw fy Ior,hwn a roes gyngor ymmy,F’arennau hefyd ddydd a nos,sydd ym yn dangos hynny.
8 Rhois fy Ner (bob awr) gar fy mron,o’r achos hon ni lithraf,Cans mae ef ar fy nehau law,yma na thraw ni syflaf.
9 O herwydd hyn, llawen a llonyw fy nghalon: ac eilwaithHyfryd yw fy mharch a di ddig,a’m cnawd a drig mewn gobaith.
10 Cans yn uffern ni edi dimo’m henaid i, i aros:Na'th anwyl sanct (drwy naws y bedd)i weled llygredd ceuffos.
11 Dangosi ym lwybr i fyw’n iawn,dy fron yw’r llawn llawenydd,Cans yn dy nerth, nid yn y llwch,mae digrifwch tragywydd.