1 Da wyd i’th dir (Jehouah Ner)dychwelaist gaethder Jago:
2 Maddeuaist drowsedd dy bobl di,mae’i camwedd wedi’i guddio.
3 Tynnaist dy lid oddiarnom ni,troist dy ddiglloni awchlym:
4 (O Dduw ein nerth) tro ninnau’n well,a’th lid bid bell oddiwrthym.
5 Ai byth y digi wrthym ni?a sori di hyd ddiwedd?A saif dy lid o oes i oes?Duw gwrando, moes drugaredd.
6 Pam? oni throi di a’n bywhau,a llawenhau yr eiddod?
7 O dangos in’ dy nawdd mewn pryd,felly cawn iechyd ynod.
8 Beth a ddywaid Duw am danaf,mi a wrandawaf hynny:Fe draetha hedd iw bobl, a’i Sainct,rhag troi ym mraint ynfydu.
9 I’r rhai a ofnant Arglwydd nef,mae’i iechyd ef yn agos:Felly y caiff gogoniant hir,o fewn ein tir ni aros.
10 Ei drugaredd, a’i wirionedd,ar unwaith cyfarfuant:Ei uniondeb, a’i hedd ynghyd,drwy’r tir a’mgydgusanant.
11 Gwirionedd o’r ddaiar a dardd,uniondeb chwardd o’r nefoedd:
12 Duw a ddenfyn yn’ ddaioni,a’n tir i roddi cnydoedd.
13 Uniondeb oedd o flaen Duw nef,a’r cyfion ef aed rhagddo:A Duw a rodia yn ei waith,fel i’r un daith ac efo.