1 Pan oeddym gaeth yn Babilon,ar lan prif afon groyw,Mewn coffadwriaeth am Seion,hidlason ddagrau’n loyw.
2 Rhoddasom ein telynau’n ’nghrog,ar goed canghennog irion.Lle yr oedd preniau helyg plan,o ddeutu glann yr afon.
3 Y rhai a’n dug i garchar caeth,ini yn ffraeth gofynnen:A ni’n bruddion, gerdd i Seion,sywaeth peth nis gallen:
4 O Dduw pa fodd y canai neb,(rhoem atteb yn ystyriol)I chwi o gerdd ein Harglwydd Dâd,a ni mewn gwlad estronol?
5 Os â Chaersalem o’r cof mau,anghofied dehau gany:
6 Na throed fy nhafod, oni bydd,hi’n ben llawenydd ymy.
7 Cofia di Dduw, blant Edom lemm,yn nydd Caersalem howddgar.Noethwch dynoethwch (meddei rhai’n)ei mur a’i main i’r ddaiar.
8 Bydd gwyn eu byd i’r sawl a wneliti merch Babel rydost,Yr unrhyw fesur, gan dy blau,i minnau fel y gwnaethost.
9 Y sawl a gymro dy blant di,bo’r rhei’ni fendigedig,Ac a darawo’r eppil tan,a’i pennau wrth y cerrig.