Salm 140 SC

SALM CXL

Eripe Domine.

Dafydd yn achwyn wrth Dduw rhag dichellion ei elynion: a chan ei siccrhau ei hun o gymorth Duw, mae efe yn annog y cyfion i foli Duw eu helpwr.

1 Rhag y gwr drwg gwared fi (Ner,)rhag gwr y trowsder efrydd,

2 Rhai sy’n bradychu yn ddirgel,a chasglu rhyfel beunydd.

3 Fel colyn sarph yn llithrig wau,yw eu tafodau llymion:Gwenwyn yr Asp sydd yn parhaudan eu gwefusau creulon.

4 Rhag y dyn drwg, rhag y gwr traws,sy’n myfyr lliaws faglau,Duw gwared fi, rhag gosod brâd,ynghylch fy ngwastad lwybrau.

5 Y beilch cuddiasant fagl a rhwyd,wrth hon gosodwyd tannau:Ar draws fy ffyrdd i ddal fy ’nrhoed,ynghudd, y rhoed llinynnau.

6 Dwedais wrth f’Arglwydd fy Nuw wyd,tyn fi o’i rhwyd a’i maglau:O gwrando’n fuan f’Arglwydd nef,ar brudd lef fy ngweddiau.

7 Fy Arglwydd yw fy nerth i gyd,a’m coel a’m iechyd calon:Ti a roist gudd tros fy mhen mau,yn nydd yr arfau gloywon.

8 I’r dyn annuwiol, Duw, na âdddymuniad drwg ei ’wyllys:Rhag ei wneuthur efo yn gry,a’i fynd yn rhy drahâus.

9 A’i holl ddymuniad drwg i mi,a’i rhegen weddi greulon,Y rhai’n yn llwyr a ddont ymmheny capten o’m caseion.

10 Syrthied arnynt y marwor tân,ac felly llosgan ymaith,Bwrier hwynt mewn cau ffosydd nant,fel na chyfodant eilwaith.

11 Dyn llawn siarad fydd anwastad,ni eistedd ef yn gryno:A drwg a ymlid y gwr traws,o hyn mae’n haws ei gwympo.

12 Da y gwn y rhydd yr Arglwydd dâli ddial cam y truan:Ac yr iawn farna y dyn tlawdsy’n byw ar gerdawd fechan.

13 Y rhai cyfiawn drwy yr holl fyd,dy enw a gyd-foliannant:A’r holl rai union, heb ofn neb,o flaen dy wyneb trigant.