Salm 72 SC

SALM LXXII

Deus Iudicium.

Solomon a’i deyrnas yn y psalm hon yn arwydd ac yn ffigur o Grist a’i ogoniant.

1 Duw dod i’r brenin farn o’r nef,dod iw fâb ei gyfiowndeb.

2 Yna y rhydd rhwng pobl iawn frawd,ac i’r dyn tlawd uniondeb.

3 Hedd a chyfiownder, yn ol hyn,cair ym hob bryn a mynydd.

4 Y gwan a’r llesg achub a wna,fe dryllia y gorthrymmydd.

5 Hwy a’th ofnant byth ar bob tro,tra treiglo haul a lleuad,

6 Fo ddisgyn fel glaw ar wellt glâs,neu gafod frâs ar wastad,

7 Iw ddyddiau ef cerir yn iawn,a’r cyfiawn a flodeua.Ac aml fydd hedd ar ddaiar gron,tra fo’r lloer hon yn para.

8 Llwydda efe o for hyd for,o’r ffrwd hyd oror tiroedd:

9 Ei gâs ymgrymmnt, llyfant lwch,hyd yr anialwch cyrredd.

10 Cedyrn o Tharsus frenhinoedd,ac o’r ynysoedd canol,O Seba ac Arabia deg,doe bawb â’i anrheg reiol.

11 Yr holl frenhinoedd doent yn llu,a than ymgrymmu atto:A’r holl genhedloedd, fel yn gaeth,a wnant wasanaeth iddo.

12 Cans y dyn rheidus, a’r gwr gwan,fo’i gweryd pan weddio.Bydd i bod dyn yn nerthol dwr,ar ni bo pleidwyr gantho:

13 Ef a erbyd y tlawd mewn rhaid,fo achub enaid glanddyn:

14 Fo a’i gweryd rhag twll a drwg,gwerthfawr iw olwg ydyn.

15 Felly bydd byw: rhoir iddo dda,sef aur o Seba ddedwydd,Hwy a weddiant arno fo,gan ei fendithio beunydd.

16 Rhyd pen y mynydd yd a gân,fel brig coed Liban siglant:A’r plant cyn amled ar gwellt glâs,o’r ddinas a flagurant.

17 Os haul cylch wybren byth a dry,byth pery enw iddaw,Pawb a’i bendithia ef yn wir,pawb a fendithir ynthaw.

18 Bendigaid fo yr Arglwydd Dduw,(sef Duw yr Israel dirion)Efe’n unig byth sy’n parhau,i wneuthur gwrthiau mowrion.

19 Bendigaid fytho i enw byth,gogonedd dilyth iddo:A’i glod llenwir y ddaiaren:Amen: Amen hyn fytho.