Salm 145 SC

SALM CXLV

Exaliabo te.

Dafydd yn dangos daioni Duw yn llywodraethu pob creadur. Mawl i Dduw am ei gyfiownder, ai ras, ai serch i bob dyn a’i hofno, ac a’i caro.

1 Mi a’th fawrygaf di, fy Nuw,cans tydi yw fy llywydd:Bendithio dy enw byth a wnaf,mi a’i molaf yn dragywydd.

2 Dy enw a folaf fi bob dydd,a’th glod a fydd heb orphen.

3 Yr Arglwydd sydd glodfawr heb wedd,a’i fowredd sydd heb ddiben.

4 Cenedl wrth genedl a ront fawli’th ogoneddawl wrthiau:Gan danu dy nerth rhyd y byd,a dwedyd dy gynneddfau.

5 Am dy ogonedd mawr, fy Naf,mynegaf, a’th gadernyd.

6 Son am dy bethau ofnadwy,gwnant hwy a minnau hefyd.

7 Llwyr goffadwriaeth honot ti,a’th fawr ddaioni traethant:Ac o’th gyfiownder, fy Nuw Ion,a llafar don y canant:

8 Sef graslawn yw ein Arglwydd ni,ac o dosturi rhyfedd:Hwyr ac anniben yw i ddig:llawn-frydig i drugaredd.

9 Da yw yr Arglwydd i bob dyn,a’i nodded sy’n dycciannol:Ac ar ei holl weithredoedd efdaw nawdd o’r nef yn rasol.

10 Dy holl weithredoedd di i’th lwydd,o Arglwydd a’th glodforant:Dy wyrth pan welo dy Sainct di,y rhei’ni a’th fendithiant.

11 Gan son am drugaredd a grâsdy dyrnas, a’i chadernyd:Fal dyna’r gerdd sydd yn parhau,yn eu geneuau hyfryd.

12 Fel y parent drwy hyfryd glod,gydnabod a’th dyrnasiad:A’th nerth ym mysg holl ddynol blant,a’th lawn ogoniant gwastad.

13 Brenhiniaeth dy dyrnas di fry,a bery yn wastadol:A’th lywodraeth o oed i oed,hon a roed yn dragwyddol.

14 Yr Arglwydd cynnal ef yn llonn,y rhai sy ’mron eu cwympod.Ac ef a gyfyd bawb yn wir,ar a ostyngir isod.

15 Wele, mae llygaid yr holl fydyn disgwyl wrthyd Arglwydd,Dithau a’i porthi hwynt i gyd,bawb yn ei bryd yn ebrwydd.

16 A phan agorech di dy law,o honni daw diwall-faeth:D’ewylls da yw ymborth byw,a hynny yw eu llyniaeth.

17 Holl ffyrdd yr Arglwydd cyfion ynt,a’i wrthiau ydynt sanctaidd:

18 Agos iawn i bawb ydyw fo,a eilw arno’n buraidd.

19 Sef ar y gwyr a’i hofnant ef,fo glyw eu llef iw gwared,Fo rydd eu ’wyllys hwynt a’i barch,o’i wir-barch, Ion gogoned.

20 Pob dyn a garo’r Arglwydd nef,caiff gantho ef ei ’mddiffyn:A chan difetha rhydd oes ferr,i bob ysceler cyndyn.

21 Fy enaid traethed fendith rhwydd,a mawl yr Arglwydd nefol:A phob cnawd rhoed iw enw, y Sanct,ogoniant yn dragwyddol.