1 Rhois weddi ar yr Arglwydd nef,yn llym fy llef ymbiliais:
2 A’m holl fyfyrdod gar ei fron,o’m calon y tywelltais.
3 Ond pan fynegais it fy nghur,a’m dolur o’m meddyliau,Da gwyddit ti bob ffordd a’r man,y rhoesan i mi faglau.
4 O’r tu deau nid oedd ym’ neb,trown f’wyneb, a’m hadwaenai,Pa nawdd, na neb, o du’n y byd,fy mywyd a ’mgeleddai.
5 Arno llefais, wrthyt dwedais,Duw, di a ydwyd union:Fy nghwbl obaith wyt yn wir,a’m rhan yn nhir y bywion.
6 O ystyr Arglwydd, faint fy nghri,wyf mewn trueni digllon:Rhag fy erlidwyr gwared fi,mae rhei’ni yn rhy gryfion.
7 O garchar caeth fy enaid tynn,dy enw am hyn a folaf:Pan weler dy fod ar fy rhan,y cyfion twysgan attaf.