1 Holl farnwyr byd mae Duw’n eu mysg,pe cymrent addysg gantho:Duw yw ymysg y duwiau mân,a’i farn sy lân heb wyro.
2 Pa hyd y rhoddwch farn ar dro,gan bleidio gydâ’r trowsion?
3 I’r tlawd, ymddifad, rheidus trwch,paham na fernwch union.
4 Gwrandewch chwi ar y gwan a’r gwael,a’r tlawd heb gael mo’i gyfraid:(Pan ddel y rhei’ni gar eich bron)o ddwylo’r trowsion diriaid.
5 Gwyr heb wybod, heb ddeall chwaith,sy’n rhodio taith tywyllni:Ni syflent hwy, pe siglai ’nghyd,yr hollfyd a’i sylfeini.
6 Dwedais mai duwiau ych yn siwr,a phlant i’r Gwr goruchaf:Er hyn mal dyn marw a wnewch,un gwymp a gewch a’ch hynaf.
7 Duw cyfod, a dyro farn ary ddayar a’i thyrnasoedd: 8 Cans mawr yw d’etifeddiaeth, dia feddi’r holl genhedloedd.