Salm 49 SC

SALM XLIX

Audite bac omnes.

Yr Yspryd yn dangos nad y cyfoethoccaf y sydd ddedwyddaf, ond mai Duw sydd yn llywio pôb pêth.

1 Gwrandewch chwi y bobloedd i gyd,trigolion byd doellwch,

2 Gwerin, tlawd, bonheddig, a chryfcyfoethog hyf ystyriwch.

3 O’m genau daw doethair didwyll,â’m calon pwyll fyfyriaf,

4 A’m clust gwrandawaf ddameg ddwysâ’m llais cerdd fwys a ganaf.

5 Paham yr ofnaf ddrygau’r bydyn amser adfyd atcas?Pan fo anwiredd wedi cau,wrth fy sodlau o’m cwmpas.

6 Mae llawer rhai o wyr y byd,mewn golud a’mddiriedant:A thrwy siarad am werth, a rhiy rhei’ni y rhodresant.

7 Ond ni wareda neb mo’i frawd,ni thâl yn ddidlawd drosto,Ac mi chymer Duw y fâth dâl,nac iawn mor sâl amdano.

8 Sef pryniad enaid dyn drud sydd,a hyn byth gorfydd peidio,

9 Fel y gallo efe fyw byth,heb fynd i nyth yr amdo.

10 Gwelir mai’r bedd yw lletty’r doeth,y ffol ar annoeth unwedd:Marw yw’r naill, a marw yw’r llalli arall gâd ei annedd.

11 Meddwl am ei hadeilad byth,yn ddilyth y parhâant:Am hyn wrth eu henwau yn wirhenwau eu tir a alwant.

12 Ni phery dyn o gnawdol dras,mewn urddas er ei adail,Diau pob dyn, pan ddel ei ddydd,a derfydd fal anifail.

13 Dyma eu ffordd, ffordd ffioledd fydd,na welant ddydd yn passio.Er hyn eu hil a ddel iw’ holfydd yn eu canmol etto.

14 Angeu yw terfyn pob dyn byw,i hwn nid yw ond tamaid:Myned sydd raid o’r ty i’r bedd:yn rhwym un wedd a’r defaid.

15 Daw dydd i’r cyfion dranoeth teg,daw ym’ ychwaneg ystyn:Daw ym’ o’r bedd godiad i fyw,deheulaw Duw a’m derbyn.

16 Er codi o wr mewn parch neu dda,nac ofna di un gronyn:Ei olud ef, na’i barch, na’i dda,i’r bedd nid â iw ddylyn.

17 Hwn tra fu fyw yn rhodio llawr,gwnai’n fawr o hono’i hunan,Gwna honot ti dy hun yn fwy,a hwynt hwy a’th ganmolan.

18 At oes ei dadau hwn pan ddel,â i’r bedd dirgel efrydd.

19 Dyn mewn anrydedd heb ddeall(fal llwdn o wall) a dderfydd.