1 Datcanaf drugaredd a barn,i’r Arglwydd cadarn canaf.
2 Byddaf ddeallus mewn ffordd wych,hyd oni ddelych attaf.A rhodiaf yn fy nhy yn rhwydd,a thrwy berffeithrwydd calon.
3 Pob peth drwg sydd gennif yn gâs,a childyn ddyrras ddynion.
4 Calon gyndyn ynof ni bydd,drwg weithydd ni ’dnabyddaf.
5 Sclandrwr dirgel, a’r balch uchelo’r achos ni oddefaf.
6 Ar ffyddloniaid mae ’ngolwg i,fe lyn y rhei’ni wrthy’:
7 A’r hwn a rodio mewn ffordd dda,hwn a wasnaetha ymmy.
8 Ni chaiff aros o fewn fy nhy,un dyn ac sy dwyllodrus,Yn fy ngolwg un dyn ni bydd,a lunio gelwydd trefnus.
9 Holl annuwiolion fy ngwlâd faith,yn forau ymaith torraf:Fel da ddelont i ddinas Dduw,y cyfryw a ddiwreiddiaf.