Salm 103 SC

SALM CIII

Benedic anima.

Y mae’n cynghori pob creadur i foli yr Arglwydd am ei aneirif drugareddau, a’i ymwared i’r ffydloniaid.

1 Fy enaid mawl sanct Duw yr Ion,a chwbl o’m eigion ynof.

2 Fy enaid n’âd fawl f’Arglwydd nef,na’i ddoniau ef yn angof.

3 Yr hwn sy’n maddau dy holl ddrwg,yr hwn a’th ddwg o’th lesgedd:

4 Yr hwn a weryd d’oes yn llon,drwy goron a’i drugaredd.

5 Hwn a ddiwalla d’enau diâ’i lawn ddaioni pybyr:Drwy adnewyddu yt’ dy nerth,mor brydferth a’r hen eryr.

6 Yr Ion cyfiawnder, barn a wnaii’r rhai sydd orthrymedig.

7 Dangos a wnaeth ei brif-ffyrdd heni Foesen yn nodedig:Ac i Israel ei holl ddawn.

8 Duw llawn yw o drugaredd:Hwyr yw ei lid, parod ei râd,fal dyna gariad rhyfedd.

9 Nid ymryson ef â ni byth,nid beunydd chwyth digofaint,

10 Nid yn ol ein drygau y gwnaiâ ni: ni’n cosbai cymmaint.

11 Cyhyd ac yw’r ffurfafen fawroddi ar y llawr o uchder,Cymaint i’r rhai a’i hofnant ef,sydd nawdd Duw nef bob amser.

12 Os pell yw’r dwyrain olau hinoddiwrth orllewin fachlud:Cyn belled ein holl bechod llym,oddiwrthym ef a’i symmud.

13 Ac fel y bydd nawdd,serch, a chwanttâd da iw blant naturiol,Felly cawn serch ein tâd o’r nef,os ofnwn ef yn dduwiol.

14 Efe a’n hedwyn ni yn llwyr,fe wyr mai llwch yw’n defnydd:

15 Oes dyn fel gwellt-glas sy’n teghau,neu ddail, neu flodau maesydd.

16 Yr hwn, cyn gynted ac y dely gwynt â’i awel drosodd:A chwythir ymaith felly o’i le,na wyddis ple y tyfodd.

17 Ond graslawn drugaredd a fydd,yn lân dragywydd feddiant,O oes i oes heb drangc, heb drai,gan Dduw i’r rhai ai’ hofnant.

18 A’i gyfiownder i blant y planta gadwant ei gyfammod:O chofiant ei orchmynion ef,mae tyrnas nef yn barod.

19 Yno y mae ei orseddfa ef,sef yn y nef tragwyddol:A llywio y mae ef bob peth,drwy ei frenhinieth nefol.

20 Bendithiwch chwi yr Arglwydd Ion,angylion, a’i holl gedyrn.Ei lân orchymmyn ef a wnewch,a’i lais gwrandewch yn drachwyrn.

21 Bendithiwch chwi yr Arglwydd ner,ei luoedd tyner tirion.Ei wyllys gwnewch, canlynwch wir,chwychwi ei gywir weision.

22 Bendithiwch chwi yr Arglwydd nef,ei hollwaith ef sy hylwydd:Ymmhob mân oll o’i drefn a’i hawl,O f’enaid mawl di’r Arglwydd.