1 Clodforaf fi fy Arglwydd Ion,o wyllys calon hollawl,Mewn cynnulleidfa gar eu bron,mewn tyrfa gyfion rasawl.
2 Mawr iawn yw gwrthiau’n Arglwydd nihysbys i bawb a’i hoffant.
3 Ei waith a’i iownder pery byth,a’i wehelyth ogoniant.
4 Yr Arglwydd a wnaeth ei goffau,am ryfeddodau nerthol.Cans Arglwydd nawdd-fawr yw i ni,llawn o dosturi grasol.
5 Ef i bob rhai a’i hofnant ef,rhydd gyfran gref at fywyd:Ac yn dragywydd y myn fodcof o’i gyfammod hefyd.
6 Mynegodd ef iw bobl i gyd,gadernyd ei weithredoedd:A rhoddi iddynt hwy a wnaeth’tifeddiaeth y cenhedloedd.
7 Gwirionedd a barn ydyw gwaithei ddwy law berffaith efo:A'i orchmynion sy ffyddlon iawn,a da y gwnawn eu gwrando.
8 Y rhai’n sy gwedi eu sicrhau,dros byth yn ddeddfau cyfion:Gwedi eu gwneuthur hwy mewn hedd,a thrwy wirionedd union.
9 Anfonodd gymmorth iw bobl ef,cyfammod gref safadwy:Archodd hyn: bo iw enw sawl,sancteiddiawl ac ofnadwy.
10 Dechreuad pob doethineb ddofni bawb yw ofn yr Arglwydd,Da yw deall y sawl a’i gwnai,a’i ofn a sai’n dragywydd.