Salm 44 SC

SALM XLIV

Expectans expectaui.

Gweddi y ffyddlon pan erlidiwyd, ar i Dduw faentymio ei achos cyfion.

1 Clywsom â’n clustiau, (o Dduw cu)a’n tadau fu’n mynegyI ni, dy wyrthiau gynt a oeddyn yr amseroedd hynny.

2 Sef y cenhedloedd tynnaist hwy,a’th bobl yn fwyfwy plennaist.Llâdd estroniaid heb ado un,a’th bobl dy hun a gedwaist.

3 Cans nid â’i cledd eu hun yn wir,y cowsant dir na thyddyn,Nid â nerth eu breichiau yn fflwch,y cadwyd heddwch iddyn:Ond dy law ddeau, a’th fawr nerth,a’th olwg prydferth effro,O herwydd yt’ eu hoffi: hyna barodd iddyn lwyddo.

4 Ti Dduw, fy mrenin ydwyd: oDuw, pâr i Jago lwyddiant:

5 Lladdwn a sathrwn yn d’enw diy rheini a’n cassaant.

6 Nid yn fy mwa mae fy ngrym,na’m cleddyf llym f’amddiffyn,

7 Ond tydi Dduw, achubaist fi,a rhoist warth fri i’r gelyn.

8 Am hynny molwn di bob dydd,cai yn dragywydd fowredd.Canwn i’th enw gerdd gan dant,o glod a moliant ryfedd.

9 Ond ti a giliaist ymaith beth,daeth arnom feth a gwradwydd:Nid ait ti allan gyd â’u llu,cyfagos fu i dramgwydd.

10 Gwnaethost i nyni droi heb drefn,ein cefn at y gelynion.Felly yr aeth ein da o’n gwladyn sclyfiad i’n caseion.

11 Rhoist ni yn fwyd (fel defaid gwâr)ar wasgar i’r cenhedloedd.

12 A gwerthaist dy bobl ar bris bach,nid hyttrach dy oludoedd.

13 Rhoist ni yn watwar (o Dduw Ion)i’n cymdogion gwrthrym:A diystyrwch oll a gwarthi bawb o bobparth ydym.

14 Dodaist ni yn ddihareb chwithymhlith yr holl genhedloedd,Ac yn arwydd i ysgwyd pen,a choeg gyfatcen pobloedd.

15 Fy ngwarth byth o’m blaen daw yn hawdd,fy chwys a dawdd fy rhagdal,

16 Gan lais gwarth ruddwr, cablwyr câs,a gwaith galanas dial.

17 Er dyfod arnom hynny i gydni throes na’m bryd na’n cofion,Ac ni buom i’th air (o Ner)un amser yn anffyddlon.

18 Ein calon yn ei hol ni throed,ni lithrai’n troed o’th lwybrau:

19 Er ein gyrru i ddreigiaiddgell a’n toi a mantell angau.

20 Os aeth enw ein Duw o’n co,ac estyn dwylo’i arall.

21 Oni wyl Duw y gaugred hon?ein calon mae’n ei deall.

22 O herwydd er dy fwyn yn wiro Dduw, i’n lleddir beunydd,Fal y defaid ymron eu llâdd,fal dyna râdd y llonydd.

23 O deffro cyfod, Dduw, mewn pryd:pa’m yr wyd cyd yn gorwedd?A dihuna, a chlyw fy nghri,a chofia fi o’r diwedd.

24 Paham y cuddi d’wyneb pryd?o darbod hyn ein blinder,Ein henaid mathrwyd yn y llwchgan dristwch a gorthrymder.

25 Wrth y llwch mae ein bol ynglyn,fal dyna derfyn gwagedd.

26 Duw, cyfod, cymorth, gwared nio egni dy drugaredd.