1 Attad (Ion fy nerth) y rhof lef,Duw nef na fydd di fyddar:Os tewi, rhag fy mynd mor drist,a bod mewn cist dan ddaiar.
2 O Arglwydd, erglyw fy llais i,a derbyn weddi bruddaidd:Pan gottwyf fy nwy law o bell,Duw, tua’th gafell sanctaidd.
3 Ac na ddarostwng fi, fy Ior,dan ddwylo’r annuwiolionY rhai sy’n arwain minau mel,a rhyfel yn eu calon.
4 Yn ol bwriad eu calon gau,a’r twyll ddyfeisiau eiddynt,Yn ol eu drwg weithredoedd hwy,Duw tâl eu gobrwy iddynt.
5 Am na ’styriant weithredoedd Duw,ef a wna ddistryw arnynt:Ac na welent ei wyrth a’i râd,ni wna adeilad honynt.
6 Bendigaid fyddo’r Arglwydd nef,fe glybu lef fy ngweddi.
7 Yr Arglwydd yw fy nerth, a’m rhan,a’m tarian, a’m daioni.Ymddiriedais iddo am borth,a chefais gymorth gantho.Minnau o’m calon, drwy fawr chwant,a ganaf foliant iddo.
8 Yr Arglwydd sydd nerth i bob rhaia ymddiriedai’n hylyn:A’i eneiniog ef fydd maeth,ac iechydwriaeth iddyn.
9 Gwared dy bobl dy hun yn dda,bendithia d’etifeddiaeth.Bwyda, cyfod hwy, am ben hyndod iddyn dragwyddolfaeth.