Salm 86 SC

SALM LXXXVI

Inclina Domine.

Dafydd yn gweddio ar Dduw am gymmorth, ac yn dymuno ar Dduw ei ddysgu ef. Ac y mae efe yn achwyn rhag ei elynion.

1 Gostwng o Arglwydd y glust dau,clyw fy ngweddiau trymion:Gwrando fi sy’ druan a thlawd,o’th barawd drugareddion.

2 Cadw fy oes, gwr cynnwys wy’,ac ytti’r ydwy’n credu:Duw bydd achubwr da i’th wâs,o’th râs dyrd i’m gwaredu.

3 Trugarha wrthif Arglwydd mâd,cans arnad llefa’n ddibaid:

4 Einioes dy wâs Duw llawenhâ,cans attad coda’ f’enaid:

5 Cans ti o Arglwydd ydwyd dda,i’th bobloedd a thrugarog,I’r rhai a alwant arnat ti,mae dy ddaioni’n bleidiog.

6 O Arglwydd clyw fy llais mor llym,a’m gweddi y’m myfyrdod:

7 Clywi fy llais, gweli fy nghlwyf,y dydd y bwyf i’m trallod.

8 Ymysg y duwiau nid oes un,fel dydi gun gogoned:Ymysg gweithredoedd cymmain hun,nid oes yr un un-weithred.

9 Y bobloedd oll a wnaethost (Ion)o’th flaen don ac addolant:A pha le bynnag ar y bonti’th enw rhont ogoniant.

10 Cans tydi ydwyd fawr a phuryn gwneuthur rhyfeddodau:A thydi’n unig wyd yn Dduw,ni cheisiwn amryw dduwiau.

11 Dysg imi dy ffordd (o Arglwydd)câf rhwydd dy wirionedd:Gwna fy nghalon yn un â thi,ac ofnaf fi dy fawredd.

12 Fy Arglwydd Dduw moliannaf diâ holl egni fy nghalon:Ac i’th fawr enw byth gan dant,y rhof ogoniant cyson.

13 Cans mawr yw dy drugaredd di,tu ac attaf fi yn barod,Gwaredaist f’enaid i o’r bedd,ac o’r gorddyfnedd isod.

14 Duw, daethant arnaf fi wyr beilch,fel llu o weilch ewin-ddrud:Ceisient ddwyn f’einioes o’r byd hwn,i’w golwg gwn nad oeddud.

15 Ond tydi’n unig wyd hawddgâr,a chlaear dy drugaredd,Hwyr i’th lid ac i gymmod hawdd,llawn o nawdd a gwirionedd.

16 O edrych arnaf, moes dy râsi’th wâs y sydd i’th orllwyn:Dod ym’ dy nerth, cadw fal hynfi, plentyn dy lawforwyn.

17 O Dduw dod o’th serch ym’ arwydd,er gwradwydd i’m caseion:Pan welant dy fod yn rhoi nerthym’, ac ymadferth ddigon.