1 Mawr ei enw’n ninas ein Duw,a hynod yw yr Arglwydd:A’i drigfan ef yno y sydd,ym mynydd ei sancteiddrwydd.
2 Tegwch bro, a llawenydd gwlâd,yw Seion lathriad fynydd,Yn ystlysau y gogledd lawr,tre’r brenin mawr tragywydd.
3 Adweinir Duw ’mhalasau honyn gymorth digon hynod.
4 Ac wele nerth brenhinoedd byddoent yno i gyd-gyfarfod.
5 A phan welsant, rhyfedd a fu,ar frys brawychu rhagor.
6 Dychryn a dolur ar bob ffaig,fel dolur gwraig wrth esgor.
7 Ti â dwyreinwynt drylli’n fraueu llongau ar y moroedd.
8 Fel y clywsom y gwelsom ni,yn ninas rhi’ y lluoedd:Sef hyn yn ninas ein Duw ni,sicrha Duw hi byth bythoedd.
9 Duw disgwyliasom am dy râsi’th deml, ac addas ydoedd.
10 Duw, fel yr aeth dy enw o hyd,felly drwy’r byd i’th folir.Dy law ddeau y sydd gyflawn,a chyfiawn i’th adweinir.
11 A bryn Sion a lawenhâ,a merched Juda hefyd:A'i llawenydd hwy yn parhauO ran dy farnau hyfryd.
12 Ewch, ewch, oddiamgylch Sion sail,a’i thyrau adail rhifwch.Ei chadarn fur a’i phlasau drawi’r oes a ddaw mynegwch.
13 Cans ein Duw ni byth yw’r Duw hwnhyd angau credwn yntho.A hyd angau hwnnw a fyddyn dragywydd i’n twyso.