Salm 58 SC

SALM LVIII

Sivere utique.

Y mae efe yn gosod allan dull ei elynion, y rhai yn ddirgel a geisient ei ddifa ef: ac y mae efe yn troi at farn Duw, ac yn dangos y caiff yr union lawenydd pan gwymper y traws. A hyn er gogoniant i Dduw.

1 Ai’r uniondeb (o bobloedd wych)yr ydych yn ei ddwedyd?A ydych chwi, o blant dynion,yn barnu’r union hefyd?

2 Hyttrach malais sy yn eich bronac ystryw calon dwyllgar:A gwaith eich dwylo trowsder blin,tra foch yn trin y ddaiar.

3 Y rhai annuwiol aent ar gam,o groth eu mam newidient,Ac ar gyfeilorn mynd o’r bru,a chelwydd fu a draethent.

4 Un wedd a gwenwyn y sarph ywy gwenwyn byw sydd ynddyn.Neu’r neidr fyddar yn trofâu,dan gau ei chlustiau cyndyn.

5 Yr hon ni wrendy ddim ar lais,na’r wers a gais y rhinwyr,Nac un gyfaredd ar a wnay cyfarwydda’ o swyn-wyr.

6 Duw, torr eu dannedd yn eu safn,diwreiddia’r llafn o dafod:Duw dryllia’r bonau, a gwna’n donnbob grudd i’r c’nawon llewod.

7 Todder hwynt fel dwr ar y tir,felly diflennir hwythau:Os mewn bwa rhoesant saeth gron,boed torri hon yn ddrylliau.

8 Boent hwy mor ddiffrwyth, ac mor hawdda malwen dawdd y todder:Neu fel rhai bach ni welai’r byd,o eisau pryd ar amser.

9 Tâl Duw iddynt ffrwythau eu llid,cynt nac y llosgid ffagldan:Tynn hwyntwy ymaith yn dy ddig,cyn twymnai cig mewn crochan.

10 A phan weler y dial hyn,fo chwardd y glanddyn cyfion.Pan fo rhydd iddo olchi eu draedyngwaed yr annuwolion.

11 Yna dywaid dynion fod iawn,a ffrwyth i gyfiawn bobloedd:A bod ein Duw yn farnwr ary ddaiar a’i therfynoedd.