Salm 22 SC

SALM XXII

Deus, Deus meus.

Prophwydoliaeth o ddioddefaint Christ, a’i weddi dros yr eglwys, a’i swyddau tragwyddol, yn brophwyd, yn offeiriad, yn frenin.

1 Dangos fy Nuw, fy Nuw, a’m grym,ba achos ym gadewaist.Pell wyd o’m iechyd, ac o nâdfy ’mloeddiad, llwyr i’m pellaist.

2 Fy Nuw ’rwy’n llefain, tithau hebroi ym’ mor atteb etto,Bob dydd a nos mae ’nghri’n diffael,a heb gael mo’m dihuddo.

3 A thi wyd sanct, sanct i barhau,lle daw gweddiau’n wastad:A holl dy Israel a’i clod,a’i pwys a’i hystod attad.

4 Yno’t gobeithiai’n tadau ni,a thydi oedd eu bwccled:Ymddiried ynot: Arglwydd hael,ac felly cael ymwared.

5 Llefasant drwy ymddiried gynt,da fuost iddynt: Arglwydd:Eu hachub hwynt a wnaethost dirhag cyni a rhag gwradwydd.

6 Fo’m rhifir innau megis pryf,nid fel gwr cryf ei arfod:Fel dirmyg dynion, a gwarth gwaelA thybiant gael eu hystod.

7 Pawb a’m gwelent, a’m gwatworent,ac a’m min-gamment hefyd,Ysgwyd eu pennau yn dra hy,a chwedi hynny dwedyd,

8 Ar yr Arglwydd rhoes bwys a chred,doed ef iw wared allan,Os myn ei ollwng ef ar led,cymered iddo ei hunan.

9 Duw tynnaist fi o groth fy mam,rhoist ynof ddinam obaith,Pan oeddwn i yn sugno hon,ac o’i dwy fron am harchwaith.

10 Arnat ti bwriwyd fi o’r bru,arnat ti bu fy ’mddiried:Fy Nuw wyt ti o groth fy mam,ffyddiais yt am fy ngwared.

11 Oddiwrthif fi yn bell na ddos,tra fo yn agos flinder,I’m cymorth i, gan nad oes neba drotho’i wyneb tyner.

12 Bustych lawer, a chryfion iawn,daethant yn llawn i’m gogylch.A theirw Basan o bob parth,yn codi tarth o’m hamgylch.

13 Egorant arnaf enau rhwthi’m bygwth, fel y llewod,A faent yn rhuo eisiau maeth,o raib ysclyfaeth barod.

14 Fel dwfr rwyfi yn diferu’n chwyrn,a’m hesgyrn, sigla’r rhei’ni:Fy nghalon o’m mewn darfu’n llwyr,fel cwyr a fai yn toddi.

15 Fel priddlestr mae fy nerth mor swrth,ynglyn wrth fy ngorchfanauMae fy nhafod, yr wyf mor drwch,fy nghyfle yw llwch angau.

16 Cans cwn cylchasant fi, fy Ner,a chadfa sceler ddiffaith:Cloddiasant fy nwy law a’m traed,Ac felly gwnaed fy artaith.

17 A rhifo fy holl esgyrn i,gan gulni hawdd y gallaf,Maent hwythau’n gweled hynny’n wych,bob tro yn edrych arnaf.

18 Rhyngthynt iw mysg y dillad mauyn rhannau dosbarthasant,A hefyd ar fy mrhif-wisc icoelbrenni a fwriasant.

19 Tithau fy nerth a’m harglwydd da,nac ymbellâ oddiwrthy,O bryssia, tydi yw fy mhorth,a thyr’d a chymorth ymy.

20 O dyr’d, ac achub yr oes faurhag ofn y cleddau ffyrnig,A gwared o feddiant y cify enaid i sy’n unig.

21 Ymddiffyn fi rhag y llew glwth,dwg o’i safn rhwth fy enaid,Achub a gwrando fi yn chwyrnrhag cyrn yr unicorniaid.

22 Mynegaf finnau d’enw yn buri’m brodur yn yr orsedd,Lle mwya’r gynulleidfa lân,dy glod a wna’n gyfannedd.

23 Hâd Iaco ac Israel, chwychwirhai ych yn ofni’r Arglwydd,Drwy ofn y rhowch iddo foliant,a rhowch ogoniant ebrwydd.

24 Cans ni’ch llysodd, ni’ch dirmygodd,ni chuddiodd ei wynebpryd,Eithr gwrandawodd weddi y gwan,a’i duchan yn ei adfyd.

25 Honot ti bydd, ac i ti gweddmewn aml orsedd fy moliant.I Dduw rhof f’addunedau’n llongar bron y rhai a’i hofnant.

26 Diwellir y tlodion:a’r rhai a geisiai yr ArglwyddA’i molant ef, fo gaiff (gwir yw)eich enaid fyw’n dragywydd.

27 Trigolion byd a dront yn rhwyddat yr Arglwydd pan gofiant:A holl dylwythau’r ddaear hondônt gar ei fron, ymgrymant.

28 Cans yr Arglwydd biau’r dyrnas,a holl gwmpas y bydoedd:Ac uwch eu llaw, ef unig syddben llywydd y cenhedloedd.

29 Y cyfoethogion a fwytânt,addolant yn eu gwynfyd:Rhai a ânt i’r llwch gar ei fron,a rhai, braint meirwon hefyd.

30 Y rhai’n oll a’i hâd, yn un frydgwnânt iddo gyd wasanaeth:A’r rhai’n i’r Arglwydd drwy’r holl dira rifir yn genhedlaeth.

31 Dont, dangosant ei uniondeby rhai sydd heb eu geni:Hyn a addawodd, ef a’i gwnaeth,hynny a ddaeth o ddifri.