1 Cenwch, a churwch ddwylo ’nghyd:holl bobl y byd cyfannedd:A llafargenwch i Dduw nef,gan leisio â llef gorfoledd.
2 Sef ofnir Duw uwch daiar gron,ef sydd dros hon yn frenin,
3 Dwg bobloedd danom, a phob gwaed,a than ein traed fo’i disgin.
4 Fe a rydd ini feddiant siwr,gwlad Jago, gwr a garai.
5 Duw a dderchafodd wrth y sain,yr utgorn gain pan leisiai.
6 O cenwch, cenwch, glod ein Duw,ein brenin yw, o cenwch,
7 Duw dros y byd sy frenin call,drwy ddeall ymhyfrydwch.
8 Brenin yw ef, a da y gwnaethlywodraeth ar wyr bydol,Ac y mae’n eistedd yn ei drwn,gorseddfa swn sancteiddiol.
9 Ymgasglant bendefigion byd:ynghyd â llu Duw Abra’m,Duw biau tariannau y tir,drwy foliant hir yn ddinam.