1 Yn Juda ac Israel diradweinir ein Duw cyfion.
2 Ei babell ef yn Salem sydd,a’i breswylfydd yn Sion.
3 Yno drylliodd y bwa a’r saeth,a’r frwydr a wnaeth yn ddarnau:A thorrodd ef yn chwilfriw mân bob tarian,a phob cleddau.
4 Trawsion fu cedyrn mynydd gynt,mewn yspail helynt uchel:Uwch a chryfach wyt na hwyntwy,nid rhaid byth mwy mo’i gochel,
5 Pob cadarn galon a ymroes,ac ni ddeffroes o’i gyntyn.Pawb a ddiffrwythodd pan ddaeth braw,ni chae un llaw ei dderbyn.
6 O’th waith (Duw Jagof) a’th amharch,cerbyd a’r march rhoi’i huno.
7 Ofnadwy wyd pwy i’th lid wg,a saif i’th olwg effro?
8 Pan ddaeth o’r nefoedd dy farn di,yr wyd yn peri’ i chym’ryd,Y ddaiar ofnodd, a’i holl llu,rhoist i ostegu ennyd.
9 I farnu pan gyfododd Duwi gadw yn fyw y gwirion:A’r rhai oedd lonydd yn y tir,yr oeddyn gywir galon.
10 Cans poethder dyn yw dy fawl di,felly gostegi drallod:Eu gwres, i’r da a fag gref ffydd,i’r drwg a fydd yn ddyrnod.
11 Eich rhodd i’r Arglwydd Dduw addewch,a llawn gwblhewch eich gobrwy,Pawb sydd o amgylch Sion deg,rhowch anrheg i’r ofnadwy.
12 Ef a ostyngodd uchel fryd,ac yspryd gwyr rhyfelgar:Fo a yrr ofn ynghanol hedd,ar holl frenhinoedd daiar.