Salm 132 SC

SALM CXXXII

Memento Domine.

Y ffyddlon yn ymddiried i addewidion Duw. Dafydd yn dymuno ar Dduw sicrhau ar vnrhyw.

1 O cofia Ddafydd, fy Nuw Ner,a’i holl wrth-flinder hefyd:

2 Pa lw adduned a roes foi Dduw Jaco, gan dwedyd,

3 Nid âf o fewn pabell fy nhy,a’m gwely mwy nis dringaf:

4 Ni roddaf i’m dau lygad hun,amrantun chwaith ni chysgaf:

5 Nes caffwyf gyflo yn ddi rus,i Arglwydd grymus Jaco.

6 Wele’n Ephrata clywsom fodlle o breswylfod iddo.Cawsom hi ym meusydd y coed.

7 Pawb doed iw bebyll tirion:Awn, ymgrymwn, pawb ufyddhaed,wrth ei faingc droed yn union.

8 F’arglwydd, cyfod i’th esmwyth lys,a’th arch o rymmus fowredd.

9 Gwisged d’offeiriaid gyfion fraint,gwisged dy Sainct wirionedd.

10 Er mwyn Dafydd dy ffyddlon wâs,na thyn dy râs yn llidiog:Ac na wrthneba di er neb,mo wyneb dy enneiniog.

11 I Ddafydd rhoes yr Ion iw gwir,a chedwir hwn heb wyredd:O ffrwyth dy gorph rhof ar dy faingc,it iraidd gaingc i eistedd.

12 Fy neddfau a’m cyfammod i,dy feibion di os cadwant:O blann i blann o gaingc i gaingc,hwy ar dy faingc a farnant.

13 Cans fy Arglwydd, o serch a bodd,a rag-ddewisodd Seion:I drigo ynthi rhoes ei fryd,gan ddwedyd geiriau tirion:

14 Hon fyth fydd fy ngorphwysfa i,o hoffder ynthi trigaf.

15 Bendithiaf hi â bwyd di ball,a’i thlawd diwall o fara.

16 Ag iechydwriaeth, medd Duw naf,y gwisgaf ei heglwyswyr:A rhoddaf yngenau pob Sancto’i mewn, ogoniant psallwyr.

17 Paraf hyn oll, ac felly y bydd,corn Dafydd yn goronog:Felly darperais, gan fy mhwyll,brif ganwyll i’m eneiniog.

18 Am ei elynion, o bob parth,y gwiscaf warth a gwradwydd,Paraf hefyd iw goron foflodeuo: medd yr Arglwydd.