1 Dywaid i mi pa ddyn a drig,i’th lys barchedig: Arglwydd?A phwy a erys ac a fyddym mynydd dy sancteiddrwydd?
2 Yr hwn a rodia’n berffaith dda,yr hwn a wna gyfiownder:A’r hwn a draetha o’i galon wir,a drig ar dir uchelder.
3 Yr hwn ni ddywaid, ac ni wna,ddim ond o’r da bigilydd:Ac ni chynnwys y rhai a roniw cymdogion gwilydd.
4 Y’r hwn sydd isel yn ei fryd,yn caru’i gyd gristnogion,Yr hwn sy’n ofni’r Arglwydd Dduw,ac sydd yn byw yn ffyddlon.
5 Yr hwn ni thyng ddim ond y gwir,er dir neu niwed iddo:Ac ni ro ei arian yn llog,er dwyn cymydog dano.
6 Na gobr, na rhodd, yr hwn ni fyn,er dal yn erbyn gwirion.
7 A wnelo hyn ni lithra fyth,fe gaiff y ddilyth goron.