2 Dowch o flaen Duw a pheraidd don,trigolion y ddaear i gyd.
3 Gwybyddwch mai’r Arglwydd sydd Dduw,a’n gwnaeth ni’n fyw fel hyn i fod,Nid ni’n hunain, ei bobl ym ni,a defaid rhi’ ei borfa a’i nod.
4 O ewch i’w byrth a diolch brau,yn ei gynteddau molwch ef,Bendithiwch enw Duw hynod,rhowch iddo glod drwy lafar lef.
5 Cans da yw’r Arglwydd, awdur hedd,da ei drugaredd a di lyth:A’i wirionedd ini a roes,o oes, i oes, a bery byth.