1 O Arglwydd, erglyw fy ngweddi,a doed fy nghri hyd attad:
2 Na chudd d’wyneb mewn ing tra fwyf,clyw, clyw, pan alwyf arnad.
3 Fy nyddiau aethant fel y mwg,sef cynddrwg im cystuddiwyd:Fy esgyrn poethant achos hyn,fal tewyn ar yr aelwyd.
4 Fy nghalon trawyd â chryn iâs,ac fel y gwelltglas gwywodd:Fel yr anghofiais fwyta ’mwyddirmygwyd fi yn ormodd.
5 Glynodd fy esgyrn wrth fy nghroen,gan faint fy mhoen a’m tuchan.
6 Fel un o’r anialwch, lle y trigy pelig, neu’r dylluan.
7 Neu fel un o adar y to,a fai yn gwilio ’i fywyd,Yn rhodio ’n unic ben y ty:wyf anhy ac anhyfryd.