10 A hyn fu o’th ddigofaint di,am yt’ fy nghodi unwaith:Ac herwydd bod dy ddig yn fawr,i’r llawr i’m teflaist eilwaith.
11 Fy nyddiau troesant ar y rhod,ac fel y cysgod ciliant:A minnau a wywais achos hyn,fel y glaswelltyn methiant.
12 Ond tydi Dduw, fy Arglwydd da,a barhei yn dragwyddol,O oes i oes dy enw a aethmewn coffadwriaeth grasol.
13 O cyfod bellach trugarhâ,o Dduw bydd dda wrth Sion:Mae’n fadws wrthi drugarhau,fel dyma’r nodau’n union:
14 Cans hoff iawn gan dy weision di,ei meini a’i magwyrau,Maent yn tosturio wrth ei llwch,a’i thristwch, a’i thrallodau.
15 Yno yr holl genhedloedd bywyr Arglwydd Dduw a ofnant:A’r holl frenhionedd trwy y byd,a ront yt gyd-ogoniant.
16 Pan adeileder Sion wych,a hon yn ddrych i’r gwledydd:Pan weler gwaith yr Arglwydd ne’,y molir e’n dragywydd.