3 Fy nyddiau aethant fel y mwg,sef cynddrwg im cystuddiwyd:Fy esgyrn poethant achos hyn,fal tewyn ar yr aelwyd.
4 Fy nghalon trawyd â chryn iâs,ac fel y gwelltglas gwywodd:Fel yr anghofiais fwyta ’mwyddirmygwyd fi yn ormodd.
5 Glynodd fy esgyrn wrth fy nghroen,gan faint fy mhoen a’m tuchan.
6 Fel un o’r anialwch, lle y trigy pelig, neu’r dylluan.
7 Neu fel un o adar y to,a fai yn gwilio ’i fywyd,Yn rhodio ’n unic ben y ty:wyf anhy ac anhyfryd.
8 Fy ngelynion â thafod rhydd,hwy beunydd a’m difenwant:A than ynfydu yn ei gwyn,i’m herbyn y tyngasant.
9 Fel llwch a lludw yn fy mhla,fu’r bara a fwyteais:Yr un wedd yn y ddiod faufy nagrau a gymysgais.