6 Fel un o’r anialwch, lle y trigy pelig, neu’r dylluan.
7 Neu fel un o adar y to,a fai yn gwilio ’i fywyd,Yn rhodio ’n unic ben y ty:wyf anhy ac anhyfryd.
8 Fy ngelynion â thafod rhydd,hwy beunydd a’m difenwant:A than ynfydu yn ei gwyn,i’m herbyn y tyngasant.
9 Fel llwch a lludw yn fy mhla,fu’r bara a fwyteais:Yr un wedd yn y ddiod faufy nagrau a gymysgais.
10 A hyn fu o’th ddigofaint di,am yt’ fy nghodi unwaith:Ac herwydd bod dy ddig yn fawr,i’r llawr i’m teflaist eilwaith.
11 Fy nyddiau troesant ar y rhod,ac fel y cysgod ciliant:A minnau a wywais achos hyn,fel y glaswelltyn methiant.
12 Ond tydi Dduw, fy Arglwydd da,a barhei yn dragwyddol,O oes i oes dy enw a aethmewn coffadwriaeth grasol.