11 Yfant yno anfeiliaid maes,assynnod myng-laes gwylltion,Heb ymadael a llawr y nant,hyd onid yfant ddigon.
12 Ac adar awyr dont gar llaw,i leisiaw rhwng y coedydd:Yn canu ei fawl o bren i bren,cethlyddiaeth lawen ufydd.
13 Dwfr ar fynyddoedd lle ni ddaw,fo wlych â glaw oddiarno:A’r gwastad tir efe a’i gwlych,bob grwn a rhych i ffrwytho.
14 Parodd i’r gwellt dyfu wrth raidanifeiliaid: a’r llysiau,Er da i ddyn: Lle rhoes o’r llawr,ymborthiant mawr rhag angau.
15 A gwin llawena calon dyn,ag olew tywyn wyneb.A bara nerthir calon gwr,mewn cyflwr digonoldeb.
16 Preniau’r Arglwydd o sugn llawn,o’i unic ddawn y tyfan.Sef y coed cedrwydd brigog mawr,a roes e’n llawr y Liban.
17 Lle y mae nythod yr adar mân,mewn preniau glân cadeir-ir:Lle mewn ffynnidwydd glwyswydd glyn,mae ty’r aderyn trwynhir.