5 Cref y rhoes sail y ddaiar gron,fel na syfl hon oddiyno:Yr hon a bery fel y rhoes,o oes i oes, heb siglo.
6 Tydi (Dduw) a ddilledaist honâ’r eigion yn fantellau,Ac oni bai dy ddehau law,ai’r deifr uwchlaw y bryniau.
7 Gan dy gerydd maent hwy yn ffo,fel pan y synio taran:Drwy fraw a brys ar hyd y ddol,y deifr iw hol a lithran.
8 Weithiau y codai’r deifr yn fryn:weithiau fel glyn panhylent,Lle y trefnaist iddynt bannwl cau,ac weithiau y gorphwysent.
9 Gosodaist derfyn lle yr arhont,ac fel nad elont drosto:Ac na ddelont hwy fyth dros lawry ddaiar fawr, iw chuddio.
10 Rhoes Duw ffynnon i bob afon,a phawb a yfant beunydd:A rhed y ffrydau rhyd y glynn,a rhwng pob bryn a’i gilydd.
11 Yfant yno anfeiliaid maes,assynnod myng-laes gwylltion,Heb ymadael a llawr y nant,hyd onid yfant ddigon.