11 Y deifr a guddiodd yr Aipht ryw,nid oedd un byw heb foddi:
12 Yna y credent iw air ef,a’i gerdd hyd nef ai’n wisgi.
13 Er hyn, tros gof mewn amser byrr,y rhoent ei bybyr wrthiau:Heb sefyll wrth air un Duw Ior,na’i gyngor, na’i ammodau.
14 Ond cododd arnynt chwant a blys,yn nyrys yr anialwch:Gan demptio Duw â rheibus fol,ynghanol y diffeithwch.
15 Rhoes iddynt lenwi ei holl flys,rhoes an-nhycciannys aflwydd.
16 Lle digient Foses wrth eu chwant,ac Aron Sant yr Arglwydd:
17 Egorai’r ddayar yn y man,a llyngcai Ddathan ddybryd:Ac a gynhullodd i’r un llam,holl lu Abiram hefyd.