14 Ond cododd arnynt chwant a blys,yn nyrys yr anialwch:Gan demptio Duw â rheibus fol,ynghanol y diffeithwch.
15 Rhoes iddynt lenwi ei holl flys,rhoes an-nhycciannys aflwydd.
16 Lle digient Foses wrth eu chwant,ac Aron Sant yr Arglwydd:
17 Egorai’r ddayar yn y man,a llyngcai Ddathan ddybryd:Ac a gynhullodd i’r un llam,holl lu Abiram hefyd.
18 Ac yn ei ddig enynnodd tân,yn fuan yn eu canol:Llosgi y rhai’n, eu terfyn fu,yn ulw, y llu annulwion.
19 Yn Horeb gwnaethant dawdd-lun lloac iddo ymgrymmasant:
20 I lun llo a borai wellt mân,y troesan eu gogoniant.