24 Dirmygent hwy y prydferth dir,ac iw air gwir ni chredent:
25 Ond yn eu pebyll grwgnach tro,ac arno ni wrandawent.
26 Yno y derchafodd Duw ei law,iw cwympiaw drwy’r anialwch:
27 Rhyd tiroedd a phobloedd anghu,iw tanu mewn diffyrwch.
28 A Baal Peor aent ynghyd,ymgredu i gyd ag efo:Ebyrth y meirwon a fwytent,a Duw a roddent heibio.
29 Fal hyn digiasant f’Arglwydd Dduwâ chyfryw goeg ddychmygion:Yntau anfonodd bla’n eu mysg,fal dyma derfysg greulon.
30 Yna cyfododd Phinehes,mewn cyfiawn wres i ddial:A phan roes hwn ei farn yn dda,Duw ar y pla rhoes attal.