34 Ni laddent chwaith bobloedd y wlâdwrth archiad Duw y lluoedd,
35 Ond ymgymyscu â hwynt yn gu,a dysgu eu gweithredoedd.
36 Gwasanaethu eu duwiau gau,y rhai fu faglau iddyn.
37 Aberthu eu plant, yn fâb, yn ferch,o serch i’r cythraul eulyn.
38 A thywalltasant wirion waed,dan draed gau-dduwiau Canaan.Y tir (wrth aberthu eu plant)gwaed llygrasant weithian.
39 Felly o’i gweithredoedd eu hun,yn un ymhalogasant.Putteinio wrth ei cwrs a’i bryd,ac felly cyd-lygrasant.
40 Wrthynt enynnodd Duw mewn digam hyn â ffyrnig gyffro.Câs a ffiaidd felly yr aethei etifeddiaeth gantho.