38 A thywalltasant wirion waed,dan draed gau-dduwiau Canaan.Y tir (wrth aberthu eu plant)gwaed llygrasant weithian.
39 Felly o’i gweithredoedd eu hun,yn un ymhalogasant.Putteinio wrth ei cwrs a’i bryd,ac felly cyd-lygrasant.
40 Wrthynt enynnodd Duw mewn digam hyn â ffyrnig gyffro.Câs a ffiaidd felly yr aethei etifeddiaeth gantho.
41 O’r achos hyn eu rhoddi a wnaethdan bob cenhedlaeth gyndyn,Mewn cyflwr câs dan estron blaid,a’i câs yn feistraid arnyn.
42 Eu gelynion aethant yn ffrom,a’i llaw fu drom a ffyrnig,Felly y darostyngwyd hwy,a mwyfwy fu eu dirmig.
43 Mynych-waredodd Duw ei blant,hwy a’i digiasant yntauA’i cwrs eu hyn: daeth cystudd hiram waith eu henwir feiau.
44 Pan welai arnyn ing na thrais,fo glywai llais eu gweddi,