42 Eu gelynion aethant yn ffrom,a’i llaw fu drom a ffyrnig,Felly y darostyngwyd hwy,a mwyfwy fu eu dirmig.
43 Mynych-waredodd Duw ei blant,hwy a’i digiasant yntauA’i cwrs eu hyn: daeth cystudd hiram waith eu henwir feiau.
44 Pan welai arnyn ing na thrais,fo glywai llais eu gweddi,
45 Gan gofio’i air troi nawdd a wnaetho’i helaeth fawr ddaioni.
46 A throi yn drugarog a wnaeth,y gwyr yn gaeth a’i cludynt,Y rhai y buasai’n fawr eu câs:cael mwy cwmwynas ganthynt.
47 Achub innau o blith y rhai’n,i arwain d’enw hyglod,O Arglwydd Dduw, cymell ni’n gui orfoleddu ynod.
48 Duw Israel bendigaid fydd,yn dragywydd Jehoua:A dweded yr holl bobl Amen,molwch Dduw llen gorucha’.