5 Fel y gwelwyf, ac y chwarddwyf,wych urddas d’etifeddaeth.Ac y cydganwyf fawl un don,a’th ddewisolion odiaeth.
6 Pechod, camwedd, ac annoethedd,gwnaethom gyda’n tadau:Ef a gaed arnom ormod gwall,heb ddeall dy fawr wyrthiau.
7 Yng wlâd yr Aipht wrth y mor coch,yn gyndyn groch anufydd:Heb gofio amled fu dy râshaeddasom atgas gerydd.
8 Etto er mwyn ei enw ei hun,Duw cun a ddaeth i’n gwared:I beri i’r byd gydnabod hyn,ei fod ef cyn gadarned.
9 Y dyfnfor coch a’i ddyfrllyd wlych,a wnaeth e’n sych â’i gerydd:Trwy ddyfnder eigion aent ar frys,fel mynd rhyd ystlys mynydd.
10 Fel hyn y dug hwynt trwodd draw,o ddwylaw eu caseion:Ac y tywysodd ef ei blanto feddiant eu gelynion.
11 Y deifr a guddiodd yr Aipht ryw,nid oedd un byw heb foddi: