8 Etto er mwyn ei enw ei hun,Duw cun a ddaeth i’n gwared:I beri i’r byd gydnabod hyn,ei fod ef cyn gadarned.
9 Y dyfnfor coch a’i ddyfrllyd wlych,a wnaeth e’n sych â’i gerydd:Trwy ddyfnder eigion aent ar frys,fel mynd rhyd ystlys mynydd.
10 Fel hyn y dug hwynt trwodd draw,o ddwylaw eu caseion:Ac y tywysodd ef ei blanto feddiant eu gelynion.
11 Y deifr a guddiodd yr Aipht ryw,nid oedd un byw heb foddi:
12 Yna y credent iw air ef,a’i gerdd hyd nef ai’n wisgi.
13 Er hyn, tros gof mewn amser byrr,y rhoent ei bybyr wrthiau:Heb sefyll wrth air un Duw Ior,na’i gyngor, na’i ammodau.
14 Ond cododd arnynt chwant a blys,yn nyrys yr anialwch:Gan demptio Duw â rheibus fol,ynghanol y diffeithwch.