1 Parod yw fy nghalon (o Dduw)o parod yw fy nghalon,Canaf yt a datcanaf wawd,o fawl fy nhafawd ffyddlon.
2 Deffro dafod, a deffro dant,a chân ogoniant beunydd:Y nabl ar delyn yn gytun,deffrof fy hun ar laf-ddydd.
3 Mawl ytty f’Arglwydd, pan deffrof,a rof ymmysc y bobloedd:A chlodfori dy enw a wnaf,lle amlaf y cenhedloedd.
4 Cans cyrhaeddyd y mae dy râs,hyd yn nheyrnas nefoedd.A’th wirionedd oi hyd at lenyr wybren a’i therfynoedd.
5 Ymddercha Dduw y nef uwchlaw,oddiyno daw d’arwyddion.A bydded dy ogoniant ary ddayar a’i thrigolion.
6 Fal y gwareder drwy hon hwyl,bob rhai o’th anwyl ddynion.O achub hwynt â’th law ddehau,a gwrando finnau’n ffyddlon.
7 Yn ei sancteiddrwydd dwedodd Duwllawen yw fy nghyfamod,Mi a rannaf Sichem rhyd y glyn,mesuraf ddyffryn Succod.