1 O Dduw fy moliant i na thau,
2 cans genau’r annuwiolion:A’i tafod twyllgar, a’i safn rhwth,arnaf sy’n bygwth digon.
3 Daethant i’m cylch â geiriau câs,rhoent ddiflas sen anynad.
4 Fal hyn i’m talent ddrwg dros dda,
5 a chas a gaf am gariad.Ac fel yr oeddynt hwy fal hyn,i’m herbyn wedi codi,Fy wyneb attad ti a drois,ac arnat rhois fy ngweddi.
6 Bid Sathan ar ei ddehau law,i’r swydd y daw yn barod,
7 A phan roer barn, yn euog boed,a’i weddi troed yn bechod.