21 Dithau Dduw er mwyn d’enw gwna,herwydd mai da d’ymwared:Gwna dy drugaredd a myfi,a bryssia di i’m gwared.
22 O herwydd tlawd a rheidus wyf,a dirfawr glwyf i’m calon,
23 Symudiad cyscod a fai’n ffo,hyn er na welo dynion.Mor ansefydlog yw fy’ stâd:a’r mudiad geiliog rhedyn
24 Fy nghnawd yn gul, fy ngliniau’n wana siglan o dra newyn,
25 Gwarth wyf i’m câs yn fy ngwael ddrych,a hwynt wrth edrych arnafA’m diystyrent dan droi tro,a than bensiglo attaf.
26 Cymorth di fi Arglwydd fy Nuw,cadw fi’n fyw â’th nodded:
27 Fel y gwyper mai gwaith dy law,yw’r lles a ddaw i’m gwared.