26 Cymorth di fi Arglwydd fy Nuw,cadw fi’n fyw â’th nodded:
27 Fel y gwyper mai gwaith dy law,yw’r lles a ddaw i’m gwared.
28 Melldithiant nac eiriechant hwy,dod fendith fwy i minnau,Bid gwarth i’m gwrthwynebwyr câs,gorfoledd i’th wâs dithau.
29 A gwarth a gwradwydd gwisger hwy,a fwyfwy y del attynt:A mantell laes o gwilydd mawr,gwisg di hyd lawr am danynt.
30 Ond fi, gan ddiolch i’m Ior mau,â’m genau mawl a ganaf:Ac a rof glod iw enw cu,lle bytho’r llu yn amlaf.
31 O herwydd ar ddeheulaw’r tlawdy saif ddydd brawd yn gefnog:A gadw ei enaid ef yn gu,rhag ei farnu yn euog.