5 a chas a gaf am gariad.Ac fel yr oeddynt hwy fal hyn,i’m herbyn wedi codi,Fy wyneb attad ti a drois,ac arnat rhois fy ngweddi.
6 Bid Sathan ar ei ddehau law,i’r swydd y daw yn barod,
7 A phan roer barn, yn euog boed,a’i weddi troed yn bechod.
8 Bo ei oes yn fer, ac yn ddilwydd,a’i swydd arall iw chymryd.
9 Poed yn ymddifaid y bo ei blant,a’i weddw yn fethiant hefyd.
10 A boed ei blant yn crwydro byd,i gymryd mân gerdodau:A cheisiant hyn rhyd dyrys dir,lle bytho hir eu prydiau.
11 Yn rhwyd y ceisiad ei dda syrth,ei lafur pyrth ddieithriaid: